Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyflwynwyd fersiwn ddrafft o Raglen Gydweithredu Cymru/Iwerddon 2014-2020 i’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer trafodaeth ffurfiol.

Cymru (drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru) sy’n bennaf gyfrifol am ddatblygu a rheoli’r rhaglen newydd hon, sy’n werth €100 miliwn dros y cyfnod 2014–2020.

Datblygwyd y rhaglen drwy gydweithrediad llawn ein partneriaid yn Iwerddon yn yr Adran Gwariant Cyhoeddus a Diwygio a Chynulliad Rhanbarthol y De a’r Dwyrain (S&ERA). Cynhaliwyd trafodaethau ffurfiol ac anffurfiol â rhanddeiliaid ledled Cymru ac Iwerddon, ac roedd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus (a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2014) yn cymeradwyo’n gryf y strategaeth a’r blaenoriaethau buddsoddi a gynigiwyd gan y ddwy Lywodraeth.

Bydd y rhaglen yn gyfrwng rhagorol i gryfhau cysylltiadau rhanddeiliaid yng Nghymru ag Iwerddon a chydweithio rhyngddynt i ddatblygu prosiectau arloesol. Bydd yn canolbwyntio ar heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar y cyd mewn meysydd arloesi, sut i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, a’r defnydd o adnoddau naturiol a diwylliannol a threftadaeth.

Cynhelir trafodaethau manwl â’r Comisiwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, a byddwn ni – ynghyd â’n cydweithwyr yn Iwerddon – yn gweithio i sicrhau y bydd y Comisiwn yn cytuno ar y rhaglen mor gynnar â phosibl y flwyddyn nesaf.

Byddaf yn parhau i roi gwybodaeth am ddatblygiadau i’r Aelodau.