Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn cyhoeddi’r datganiad hwn i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ynghylch atal gweithgareddau Bwrdd Chwaraeon Cymru.  

Ddydd Mawrth, 22 Tachwedd, pasiwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd yn unfrydol gan yr Is-Gadeirydd a Bwrdd Chwaraeon Cymru.  Nid oedd y Cadeirydd yn bresennol yn y cyfarfod.  Ddydd Mercher, 23ain Tachwedd, gyda chydsyniad llawn y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, ataliwyd holl weithgareddau Bwrdd Chwaraeon Cymru tan iddynt gael sicrwydd y cynhelir adolygiad.  

Roedd atal y gweithgareddau yn weithred niwtral.  Yn y cyfamser, byddai gweithgareddau Chwaraeon Cymru o ddydd i ddydd yn parhau fel arfer.  Tra bo gweithgareddau’r Bwrdd wedi eu hatal, bydd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru yn mynd â materion a fyddai fel arfer wedi dod at sylw’r Bwrdd, at swyddog o Lywodraeth Cymru.  Mae hyn yn sicrhau bod materion yn cael eu llywodraethu’n briodol tan cynnal yr adolygiad o sicrwydd  .
 
Mae cylch gorchwyl yr adolygiad i’w weld isod.  

Cylch Gorchwyl

  • archwilio ac adrodd ar amgylchiadau, y cefndir a phroblemau sy’n gysylltiedig â’r bleidlais ddiweddar o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd gan Fwrdd Chwaraeon Cymru   
  • archwilio ac adrodd ar drefniadau llywodraethu Bwrdd Chwaraeon Cymru  

Y Tu Allan i’r Cwmpas

Ni fydd yr adolygiad sicrwydd yn ystyried yr adolygiad drafft a baratowyd gan Gadeirydd Chwaraeon Cymru ac effeithiolrwydd ehangach Chwaraeon Cymru ei hun.  

Camau Gweithredu

Cynhelir yr adolygiad yn unol â Gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil o onestrwydd, di-dueddrwydd, didwylledd a gwrthrychedd.  Bydd yn cael ei gynnal drwy gyfres o gyfweliadau strwythuredig a thrwy archwilio cofnodion, gan arwain at adroddiad i’r Cyfarwyddwr Llywodraethu, gyda thystiolaeth, casgliadau ac argymhellion.  

Amseru

Cynhelir yr adolygiad o fewn 8 wythnos.

Byddaf yn hysbysu’r Aelodau o unrhyw ddatblygiadau pellach.