Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Chwaraeon Cymru wedi cytuno heddiw y dylai holl weithgareddau’r Bwrdd gael eu hatal dros dro. Dyma weithred niwtral sy’n deillio o faterion sydd wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf. Cafodd y penderfyniad hwn ei bwyso a’i fesur yn ofalus ond rwy’n credu’n bendant fod angen gwneud hyn tra bo fy swyddogion yn cynnal adolygiad brys o’r digwyddiadau hyn. Ni allaf ddatgelu rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd ond byddai’n cyflwyno rhagor o wybodaeth i’r Aelodau cyn gynted ag y gallaf. Rhagwelaf y bydd holl weithgareddau’r bwrdd yn cael eu hatal hyd o leiaf ddiwedd y flwyddyn, gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad.
Mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pobl Cymru, ar lefel elitaidd ac ar lawr gwlad. Mae’n hollbwysig felly sicrhau bod gennym gorff cydlynus ac effeithiol ar gyfer hyrwyddo hyn. Fy unig nod yw sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i gyflawni hyn yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd holl weithgareddau arferol y corff yn parhau yn unol â’r arfer.