Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae tystiolaeth newydd wedi cael ei chyhoeddi sy'n golygu y bydd llai o fenywod â chanser y fron yng Nghymru yn derbyn triniaeth cemotherapi ddiangen.
Ar hyn o bryd, mae menywod sydd â chanser y fron yn y cyfnod cynnar yn debyg o gael llawdriniaeth ac yna eu hasesu i weld faint o berygl sydd i'w canser ddychwelyd. Os yw'r risg o weld y canser yn dychwelyd yn isel, nid ydynt yn cael eu cynghori i gael cemotherapi. Bydd y rhai sy'n wynebu risg uwch, ar y llaw arall, yn cael eu cynghori i gael cemotherapi. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y dylai menywod sydd mewn perygl canolig o weld y clefyd yn dychwelyd, sydd â chlefyd cysylltiedig â hormonau a lle nad oes effaith ar y nodau lymff, gael cynnig prawf genetig o'r enw Oncotype DX.
Yn dilyn y prawf hwn, bydd tua 50% o'r rhai sy'n cael eu profi yn cael sgôr risg isel, ac yn medru osgoi cemotherapi. Bydd tua 25% yn risg uchel ac yn cael eu cynghori i gael cemotherapi. Bydd y 20-25% sydd ar ôl yn cael sgôr risg canolig, a hyd at y ddiweddar nid oedd yn glir a fyddai cemotherapi yn effeithio ar y canlyniadau i'r claf neu beidio. Mae tystiolaeth newydd a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau wedi dangos nad yw menywod sy'n cael sgôr risg canolig yn elwa o gael cemotherapi. Golyga hyn y gallant yn y dyfodol osgoi triniaeth cemotherapi ar ôl cael llawdriniaeth. Amcangyfrifir y bydd hyd at 100 o fenywod Cymru yn y categori hwn bob blwyddyn.
Yn ogystal â chynnig manteision i'r cleifion, bydd y dystiolaeth hon yn golygu y bydd modd i wasanaethau iechyd wneud gwell defnydd o'r capasiti penodol sydd ganddynt i drin y menywod a fydd yn elwa fwyaf o gael cemotherapi.