Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth y byddai Llywodraeth Cymru yn rhannu'r gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i gyfres o brosiectau arddangos y Canllaw Ceisiadau ar y Cyd a gafodd ei lansio ym mis Hydref 2013. Cafodd y Canllaw ei greu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn becyn cymorth ymarferol i brynwyr a chyflenwyr er mwyn i gonsortia gael mwy o lwyddiant wrth gyflwyno ceisiadau am gontractau'r sector cyhoeddus.  

Ym mis Mawrth, cyhoeddais fod y contract cyntaf a gefnogwyd drwy'r astudiaeth beilot wedi cael ei ddyfarnu i gonsortiwm newydd.  Nod y contract oedd sefydlu fframwaith, dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i sicrhau bod ei dai'n cydymffurfio yn unol â'i raglen barhaus o dan Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Cafodd Allied Construction Consortium Ltd, y consortiwm llwyddiannus, ei sefydlu'n arbennig i wneud cais am y prosiect hwn. Erbyn hyn, mae'r consortiwm wedi dechrau gweithio ar brosiect gwerth £1.1 miliwn.

Erbyn hyn, mae wyth o'r deuddeg prosiect arddangos a gafodd eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru wedi dod i ben. Cafodd contractau eu dyfarnu i  bump o'r rhain, a'r mwyafrif ohonynt yn gonsortia newydd a gafodd eu sefydlu'n benodol i gynnig am y contractau.

Enghraifft wych arall yw prosiect Cyngor Sir Caerfyrddin i gyflawni'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a gafodd ei dylunio i integreiddio gwasanaethau cymorth i deuluoedd.  Mae consortiau newydd, sy'n cynnwys sefydliadau yn y trydydd sector, wedi cael eu penodi i gyflawni'r ddwy lot a gafodd eu dyfarnu.  

Bydd adroddiad Gwersi a Ddysgwyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw.  Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at lwyddiant y prosiectau ac yn tynnu ynghyd adborth gan brynwyr a chyflenwyr ar eu profiadau o hysbysebu a chyflwyno ceisiadau am gontractau sy'n hybu cyflawni gan gonsortia. Bydd yr wybodaeth ddefnyddiol hon yn cael ei rhannu yn eang a bydd yn helpu i fynd i'r afael â'r risgiau gwirioneddol a thybiedig mewn perthynas â cheisiadau gan gonsortia.

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru ar ei newydd wedd, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin, yn pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod cyfleodd caffael yn agored ac yn hygyrch i gynigwyr newydd, gan gynnwys consortia. Mae'n nodi bod y Canllaw Ceisiadau ar y Cyd yn arf pwysig ar gyfer helpu cyflawni hyn. Yn hinsawdd ariannol bresennol y sector cyhoeddus, mae'n bwysicach nag erioed bod busnesau bach yng Nghymru a sefydliadau yn y trydydd sector yn gallu ffurfio consortia a gwneud cais am gontractau cyhoeddus a fyddai'n rhy fawr iddynt eu cyflawni ar eu pen eu hunain.

Yr wyf bellach yn ystyried sut y gall y dull Ceisiadau ar y Cyd gael ei gryfhau ymhellach drwy ddefnyddio'r pwerau rheoleiddio a roddwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Awst.