Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mai parhad dysgu ym mhob rhan o'r system addysg yw un o'i phrif flaenoriaethau drwy gydol y pandemig. Mae ymgysylltu'n llawn â dysgu yn hollbwysig er mwyn sicrhau y bydd ein myfyrwyr yn parhau i ffynnu yn eu cyrsiau astudio, ac yn hanfodol i'w hiechyd meddwl a'u llesiant. Wrth inni wynebu heriau'r pandemig hwn, nawr ac yn y dyfodol, mae sgiliau a chyfraniad ein myfyrwyr a chymunedau ehangach ein prifysgolion yn hanfodol bwysig.

Er mwyn cefnogi'r ymrwymiad hwn, rwy'n cyhoeddi proses a reolir lle y bydd myfyrwyr yn dychwelyd yn raddol i ddysgu yn y cnawd ac i'w llety yn ystod y tymor ym mis Ionawr.

Rwyf wedi gofyn i'n prifysgolion amrywio dyddiadau dechrau tymor y gwanwyn fymryn yn fwy na'r arfer, gyda dysgu cyfunol yn parhau drwy gydol tymor y gwanwyn. Bydd dysgu ar-lein yn dechrau yn ôl y bwriad a bydd y prifysgolion yn rhannu eu cynlluniau â'u myfyrwyr. Ni fydd y rhan fwyaf o'r dysgu yn y cnawd yn dechrau tan ar ôl 11 Ionawr a byddwn yn annog myfyrwyr, lle y bo modd, i beidio â dychwelyd i'w llety yn ystod y tymor nes i'r dysgu yn y cnawd ddechrau. Bydd hyn er mwyn sicrhau y gallwn reoli argaeledd profion llif unffordd asymptomatig er mwyn cefnogi'r broses o ddychwelyd yn ddiogel i lety yn ystod y tymor a dysgu yn y cnawd.

Gofynnir i fyfyrwyr gael prawf wrth ddychwelyd, cadw ar wahân yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor am gyfnod byr o dridiau a chael ail brawf ar ôl hynny.

Bydd hyn yn gwneud yn siŵr y gallwn gadw ein myfyrwyr yn ddiogel drwy adnabod unrhyw fyfyrwyr sydd â COVID-19 pan ddônt yn ôl i lety a rennir, sicrhau eu bod yn hunanynysu ac atal y feirws rhag lledaenu. Bydd y cyfuniad o brofi a chadw ar wahân yn bwysig er mwyn atal y feirws rhag lledaenu drwy'r gymuned o fyfyrwyr wrth iddynt ailffurfio aelwydydd, cymysgu a dod i gysylltiad â'u ffrindiau yn y brifysgol unwaith eto ar ôl treulio amser yn cymysgu â'u teuluoedd a'u ffrindiau gartref yn ystod y gwyliau.

I gefnogi'r dull hwn, rwy'n gofyn i unrhyw fyfyrwyr a fydd yn dewis peidio â chymryd rhan yn y profion asymptomatig gadw ar wahân am gyfnod o 14 diwrnod ar ôl dychwelyd i'w llety yn ystod y tymor. Bydd hyn yn golygu lleihau cyswllt â phobl eraill a pheidio â mynd allan heblaw am resymau hanfodol fel cael gofal meddygol neu wneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Profi pob myfyriwr fydd y ffordd hawsaf i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd i gadw eu ffrindiau'n ddiogel a lleihau'r risg o orfod hunanynysu drwy dymor y gwanwyn.

Bydd y cyfuniad o amrywio dyddiadau dechrau a phrofi myfyrwyr hefyd yn cefnogi'r timau Profi Olrhain Diogelu drwy helpu i reoli'r llifau o unigolion y gall fod angen iddynt ymuno â'r system olrhain cysylltiadau. Gwyddom ei bod yn rhaid inni helpu i ddiogelu'r GIG ac osgoi ei lethu, a dyna'n union y bydd amrywio dyddiadau dechrau yn helpu i'w gefnogi.

Rwy'n gofyn i'n prifysgolion wneud penderfyniadau mewn perthynas â'u myfyrwyr a'u staff eu hunain a phenderfynu pa fyfyrwyr y bydd angen iddynt ddychwelyd a phryd. Gall hyn olygu y bydd angen i fyfyrwyr sydd ar leoliadau, y rhai ar gyrsiau perthynol i ofal iechyd a'r rhai y mae angen iddynt ddefnyddio cyfleusterau ar y campws ar gyfer cyrsiau ymarferol ddychwelyd yn gyntaf.  

Mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, rydym wedi cytuno y bydd profion torfol ar waith ar gampysau o 4 Ionawr ymlaen er mwyn helpu i reoli dychweliad myfyrwyr a staff a lliniaru'r risg o drosglwyddo'r feirws. Rydym yn gweithio i sicrhau y gall ein prifysgolion gael gafael ar ddigon o brofion ar yr adeg gywir i gefnogi eu cynlluniau.

Byddwn yn edrych i weld sut y gellir rheoli'r trefniadau profi yn ein prifysgolion yn y tymor hwy. Bydd angen i'r trefniadau profi gefnogi ein prifysgolion, ein myfyrwyr, ein staff, ein cymunedau a'r ymateb ehangach i'r pandemig o ran iechyd y cyhoedd. Byddwn yn parhau i weithio ym mhob rhan o'r Llywodraeth, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n prifysgolion i drafod sut y gellir rheoli hyn cyn inni benderfynu ar ein dull polisi ar gyfer profion asymptomatig am weddill tymor y gwanwyn.

Rwyf am i'n myfyrwyr ddychwelyd i gael eu haddysgu yn y cnawd cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt barhau â'u haddysg, byw eu bywydau a chael rhywfaint o ryddid i gymdeithasu â'u ffrindiau mewn ffordd ddiogel. Mae campysau ein prifysgolion yn ddiogel o ran COVID-19 ac mae ein prifysgolion wedi gweithio'n galed i wneud yn siŵr y gallant sicrhau bod staff a myfyrwyr yn ddiogel yn yr amgylchedd dysgu ac addysgu.

Rydym yn cydnabod bod ein prifysgolion a'n myfyrwyr yn amrywiol. Ni fydd pob myfyriwr wedi teithio yn ystod y gwyliau. Ar y campws, gall cyfleusterau sy'n ddiogel o ran COVID-19 aros ar agor er mwyn sicrhau na fydd myfyrwyr dan anfantais ac y gallant ddefnyddio cyfleusterau fel labordai, llyfrgelloedd a mannau astudio lle y bo angen.

Drwy gydol y pandemig hwn, rydym wedi gweithio gyda'n prifysgolion ac rwy'n hynod falch o'r ffordd y maent wedi cefnogi eu myfyrwyr, eu staff a'n cymunedau. Rwy'n ffyddiog y byddant yn parhau i wneud penderfyniadau cyfrifol sy'n briodol i'w hamgylchiadau ac i anghenion myfyrwyr, staff a chymunedau lleol gan helpu i gadw Cymru'n ddiogel ar yr un pryd.

Cofiwch na ddylai pobl deithio os oes ganddyn nhw neu rywun sy'n byw gyda nhw symptomau, os ydynt wedi cael prawf positif neu os oes swyddog olrhain cysylltiadau wedi gofyn iddynt hunanynysu.