Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos â sector y prifysgolion yng Nghymru i gytuno ar set o egwyddorion a fydd yn caniatáu i bob myfyriwr sy’n byw mewn llety yn ystod y tymor fynd adref os dymunant ar ddiwedd y tymor presennol.

Rydym wedi cytuno ar ddau brif fesur i alluogi’r sector i reoli symudiadau myfyrwyr ar ddiwedd y tymor mewn modd sydd mor ddiogel ag sy’n bosibl.    

Yn gyntaf, bydd y prifysgolion yn cwblhau’r rhan fwyaf o’r addysgu sy’n cael ei gynnal yn bersonol yn ystod yr wythnos sy’n arwain at 8 Rhagfyr. Byddem yn annog myfyrwyr sy’n bwriadu teithio i wneud trefniadau i symud o’u llety adeg tymor erbyn 9 Rhagfyr fan bellaf.

Yn ail, byddwn yn gofyn i fyfyrwyr sydd am ddychwelyd adref ar ddiwedd y tymor i ddilyn set syml o ganllawiau. Bydd y rhain yn helpu myfyrwyr i ystyried yr hyn y dylent ei wneud ac yn caniatáu iddynt gymryd camau ar sail risg yn ôl eu hamgylchiadau unigol. Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i bob myfyriwr wneud dewisiadau cyfrifol i ddiogelu’r bobl y maent yn eu caru, gan gynnwys yr opsiwn i gymryd prawf llif asymptomatig. Rydym yn datblygu offer, canllawiau a negeseuon ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ein prifysgolion a’n myfyrwyr. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi cyn hir.

Rydym yn gweithio gyda'r llywodraethau eraill ledled y DU i sicrhau bod pob myfyriwr, ni waeth ble y mae’n byw neu'n astudio, yn cael ei drin yn deg ac yn gallu teithio adref mor ddiogel â phosibl i gadw ein holl gymunedau'n ddiogel. Bydd rhagor o fanylion am y set lawn o fesurau ar gael cyn hir i gefnogi teithio’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i bob un o’n prifysgolion gymryd rhan mewn cynllun peilot profion asymptomatig torfol sy’n edrych ar y defnydd o ddyfeisiau llif unffordd newydd o fewn lleoliadau Addysg Uwch. Mae’r profion hyn yn ein galluogi i gael canlyniadau’n gynt a gallent fod yn amhrisiadwy wrth brofi niferoedd mawr o bobl, dod o hyd i achosion positif yn gynt ac atal a lleihau trosglwyddiad yn y gymuned. Rydym yn gweithio gyda’n prifysgolion er mwyn gwneud trefniadau i roi’r cynllun peilot ar waith cyn diwedd y tymor. Byddem yn annog myfyrwyr i gofrestru ar gyfer y profion asymptomatig er mwyn sicrhau eu bod yn dychwelyd adref ar ddiwedd y tymor.

Er ein bod wedi gweld achosion o COVID-19 ymhlith myfyrwyr, mae'r rhain yn gysylltiedig â'r ffaith bod myfyrwyr wedi teithio ac wedi ffurfio cysylltiadau newydd ac aelwydydd newydd yn eu llety ar ddechrau'r tymor. Rydym hefyd yn gweld gostyngiad cyson mewn achosion. Mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw achosion o drosglwyddo’r haint yn digwydd yn yr amgylchedd addysgu a dysgu. Mae’r prifysgolion yn sicrhau bod eu campysau’n ddiogel o ran COVID ac yn glynu wrth reolau cadw pellter cymdeithasol llym.

Mae ein prifysgolion hefyd wedi cytuno ar sicrhau bod y modd y mae myfyrwyr yn gadael trefi eu campysau a’u prifysgolion yn digwydd yn raddol, i leihau’r pwysau ar drafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio.

Rydym yn cydnabod bod ein myfyrwyr a'n sefydliadau yng Nghymru yn amrywiol. Ni fydd angen i bob myfyriwr deithio i ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig. Yng Nghymru, mae gennym lefelau uchel o fyfyrwyr sy'n byw gartref ac yn teithio i'r campws – ac mae eu haddysg yn rhan o’u bywydau bob dydd, gan fyw gydag aelodau o'r teulu a gofalu amdanynt yn ogystal ag astudio. Rydym hefyd yn cydnabod y cyfraniad y mae myfyrwyr yng Nghymru yn ei wneud i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg ac ymchwil. Efallai y bydd angen i'r myfyrwyr hynny barhau yn eu lleoliadau, gan gynnwys parhau â’u hasesiadau neu eu haddysgu hanfodol arall yn bersonol. Gall ein prifysgolion barhau i addysgu'n bersonol ac i gynnal gweithgareddau ar y campws lle bo angen. Rydym wedi cydweithio â'n prifysgolion yng Nghymru ac yn parhau i'w cefnogi i wneud penderfyniadau cyfrifol sy'n briodol i'w hamgylchiadau ac anghenion eu myfyrwyr a'u staff, gan ddiogelu Cymru ar yr un pryd.

Mae’r angen i gydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu lles â’r awydd i ddiogelu ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau rhag y risg o gael eu heintio yn parhau i fod yn heriol. Rwy’n ddiolchgar i brifysgolion, undebau myfyrwyr, undebau staffio, staff a myfyrwyr yng Nghymru am eu hymrwymiad cadarnhaol i’r materion hyn.

Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl i weld eu hanwyliaid mewn ffordd sydd mor ddiogel â phosibl.

Ni ddylai pobl deithio os ydynt yn arddangos symptomau, wedi cael canlyniad prawf positif neu os gofynnwyd iddynt hunanynysu gan swyddog olrhain cysylltiadau.