Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl data’r Adran Drafnidiaeth mae llif y traffig cludo llwythi sy’n defnyddio’r llwybrau rhwng Cymru ac Iwerddon yn parhau i fod yn llawer is na chyn diwedd y cyfnod pontio, er gwaethaf datganiadau Llywodraeth y DU i’r gwrthwyneb.

Mae maint y traffig ym mhorthladd Caergybi wedi gostwng tua 50% o’i gymharu â’r llynedd, ac mae maint y traffig yn Abergwaun a Doc Penfro tua 40% yn is.  Mae llawer o’r traffig hwn wedi’i ddargyfeirio i ffwrdd o borthladdoedd Cymru i lwybrau uniongyrchol rhwng Iwerddon a’r UE a Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr.

Er y gellir priodoli hyn yn rhannol i effeithiau COVID-19, mae masnachwyr, cludwyr a’r porthladdoedd wedi adrodd ei bod bellach yn fwy costus, llafurus ac mae’r risg yn  uwch i lywio’r prosesau newydd sydd eu hangen i groesi’r ffin rhwng Cymru ac Iwerddon. Nid problemau cychwynnol yn unig yw’r rhain, ond materion craidd gyda’r rheolau a’r prosesau newydd sydd wedi’u sefydlu ers hynny.

Mae llawer o’r ffactorau hyn yn ganlyniad anochel i’r cytundeb masnach a geisiwyd gan Lywodraeth y DU, nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr o reolaeth drosto. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae ein porthladdoedd fferi a’n gwasanaethau yn ei wneud i ffyniant economaidd Cymru a’r DU yn ehangach ac ni allwn laesu dwylo tra bo bywoliaeth pawb sy’n gysylltiedig â’r porthladdoedd dan fygythiad.

Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynlluniau a chamau cadarnhaol y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r dirywiad hwn.

Heddiw rydym yn cyhoeddi cynllun 5 pwynt i gefnogi Logisteg rhwng Cymru ac Iwerddon (Saesneg yn unig) a mynd i’r afael â’r effeithiau anghymesur rydym yn eu gweld yn awr ar fasnach gan ddefnyddio porthladdoedd fferi Cymru. Rydym yn galw ar ein partneriaid yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon i gydweithio â ni ar y camau pendant sydd wedi’u nodi er mwyn inni ddatrys y sefyllfa hon er budd pob un o’n gwledydd.

Byddwn yn adolygu’r cynllun yn gyson ac yn parhau i gydweithio’n agos â rhanddeiliaid wrth i atebion posibl eraill ddod i’r amlwg. Byddwn hefyd yn ymgynghori ymhellach â diwydiant a gweithredwyr yn ôl yr angen, pe bai problemau’n parhau ymhellach i’r flwyddyn.