Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Yn dilyn fy Natganiad Llafar ar 2 Gorffennaf, rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y camau yr wyf yn eu cymryd i gefnogi llythrennedd o dan y Cwricwlwm i Gymru. Rwyf wedi bod yn glir bod llythrennedd yn rhan allweddol o weithredu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg. Fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro, nid oes lle i laesu dwylo pan fo addysg ein plant a'n pobl ifanc yn y fantol, ac mae hynny'n cynnwys darllen.
O ystyried natur dechnegol y maes dysgu hwn, mae’n amlwg bod yn rhaid inni weithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau eglurder ein canllawiau a’n cymorth a gofalu bod ein disgwyliadau yn glir i ysgolion. Mae hyn yn cynnwys eglurder mwy ynghylch pwysigrwydd ffoneg, ac esbonio geiriau sy’n ymwneud â chiwiau drwy luniau.
Rydym wrthi eisoes yn adolygu ein Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i gefnogi ein proffesiwn addysgu cyfan i ddatblygu sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm. Ochr yn ochr â'r adolygiad hwn, rydym yn datblygu egwyddorion cenedlaethol clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer addysgu llythrennedd yn effeithiol. Bydd y Fframwaith a'r egwyddorion cenedlaethol yn sicrhau bod ein disgwyliadau ar gyfer llythrennedd yn ymestyn dysgwyr ac yn adlewyrchu'r dystiolaeth o ran sut rydym yn dysgu darllen. Fel y nodais yn y Senedd ym mis Gorffennaf, byddwn hefyd yn gosod y Fframwaith ar sail statudol i hyrwyddo mwy o gysondeb ar draws ysgolion.
Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, i sicrhau bod gan bob ysgol ac ymarferydd fynediad at yr un hyfforddiant a chymorth safonol i addysgu llythrennedd. Bydd hyn yn cynnwys treialu pecyn asesu i helpu gweithwyr proffesiynol i sgrinio sgiliau darllen a sgiliau llythrennedd ehangach dysgwyr ar adegau pontio allweddol i ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae'r camau rydym yn eu cymryd i ddatblygu cynnydd, trefniadau asesu a chynllunio'r cwricwlwm yn ehangach yn ein hysgolion hefyd yn hanfodol i lythrennedd. Mae'r garfan gyntaf o ymarferwyr ac arweinwyr eisoes wedi dechrau ar ein rhaglen gymorth genedlaethol ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm a threfniadau asesu, gan sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu cefnogi i fod yn hyderus ynghylch yr hyn y mae 'da' yn ei olygu. Byddwn yn darparu'r manylion ychwanegol ar sut beth yw cynnydd mewn perthynas â sgiliau ac ymagweddau allweddol yn ymarferol ar draws y cwricwlwm, yn ogystal ag adnoddau a thempledi i helpu ysgolion i gynllunio
Fodd bynnag, ni all gwelliant aros tan ar ôl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau. Byddaf yn sicrhau bod yr adnoddau presennol safonol ar ffoneg a llythrennedd yn hawdd i bob ysgol gael gafael arnynt drwy Hwb, ein platfform dysgu digidol cenedlaethol. Byddaf hefyd yn sicrhau bod enghreifftiau pellach o'r defnydd effeithiol o ffoneg yn cael eu rhannu'n eang ar draws y system i gefnogi'r gweithredu cyn gynted â phosibl, drwy ehangu'r ystod o astudiaethau achos sydd ar gael ar Hwb. Byddaf yn ysgrifennu at ysgolion i dynnu sylw at yr adnoddau hyn.
Mae gwaith gwych eisoes yn digwydd mewn cymaint o'n hysgolion o dan Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys ar lythrennedd. Mae hynny'n cynnwys dulliau ysgol gyfan mewn perthynas â darllen, gan ddefnyddio ein Hasesiadau Personol cenedlaethol fel adnodd i wella sgiliau darllen, ac ymgorffori sgiliau darllen ar draws y cwricwlwm. Mae rhannu a dysgu o'r hyn sy'n gweithio yn hanfodol er mwyn gwella safonau darllen ledled Cymru.
Yn olaf, rwyf eisoes yn gwneud cynlluniau i gynnull panel arbenigol y tymor hwn i adolygu a llywio ein camau i wella llythrennedd yng Nghymru. Bydd hyn yn dwyn ynghyd ystod o arbenigedd i sicrhau bod yr holl gefnogaeth rydym yn ei rhoi wedi'i seilio'n gadarn ar y dystiolaeth glir ynghylch sut mae dysgwyr yn datblygu eu sgiliau darllen a'u sgiliau llythrennedd ehangach.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar hynt y gwaith hwn.