Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r sector manwerthu yn rhan greiddiol o'n heconomi sylfaenol, gan gyflogi tua 120,000 o bobl yng Nghymru (2023), ac yn darparu profiad siopa lleol a chyfleus i ddefnyddwyr Cymru mewn cymunedau ledled y wlad. Ynghyd â lletygarwch, mae amgylchedd manwerthwyr yn darparu lle i bobl gwrdd, yn gwasanaethu ein hanghenion sylfaenol drwy ddarparu eitemau hanfodol ac - yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn - yn cyflenwi'r anrhegion ac yn cynnig y profiadau y gallem eu prynu i anwyliaid sy'n helpu i wneud tymor y Nadolig yn un arbennig. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol sefydledig rhwng manwerthwyr, undebau a'r llywodraeth.  Mae lefelau cynyddol o droseddau manwerthu wedi bod yn bwynt trafod rheolaidd yn ein Fforwm Manwerthu, a thynnwyd sylw ato pan fynychodd Gweinidogion ddigwyddiad galw heibio Usdaw a gynhaliwyd yn y Senedd yn ddiweddar.     

Yn ogystal, datgelodd arolwg diweddar gan undeb y gweithwyr siopau, Usdaw, fod bron i hanner y gweithwyr mewn siopau wedi cael eu bygwth dros gyfnod o ddeuddeg mis, ac roedd tua 7 o bob 10 wedi profi cam-drin geiriol, gyda'r mwyafrif o ddigwyddiadau'n cael eu priodoli i ddwyn o siopau. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arferion gwaith teg ar gyfer pob gweithiwr yng Nghymru ac rydym yn cydnabod y pwysau tymhorol ar fanwerthu wrth i bobl ledled Cymru baratoi ar gyfer y Nadolig.   

Mae hyn yn arbennig o wir mewn diwydiant sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, lle mae ymwneud wyneb yn wyneb rhwng siopwyr a gweithwyr manwerthu yn gyffredin. Mae angen cwsmeriaid er mwyn i fanwerthu ffynnu, a gweithwyr manwerthu sy'n gwasanaethu, yn gwerthu ac yn cyflenwi eu nwyddau a'u gwasanaethau i gwsmeriaid.

Wrth inni nesáu at y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgyrch ar y cyd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru ac Usdaw sy'n annog cwsmeriaid i fod yn garedig tuag at weithwyr mewn siopau. 

Mae'r ymgyrch ar y cyd yn dangos ein ffordd partneriaeth gymdeithasol o weithio yng Nghymru, ac mae yn dangos gwerth y cysylltiadau sydd wedi'u hatgyfnerthu drwy ein Fforwm Manwerthu. 

Mae pawb yn haeddu parch, cwrteisi, ac i fod yn ddiogel rhag trais a chamdriniaeth. 

Mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid ar y Fforwm Manwerthu yn gweithio'n agos gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu a heddluoedd Cymru i sicrhau bod gweithwyr mewn siopau yn ddiogel yn y gwaith, ac yn gallu gwasanaethu defnyddwyr Cymru, heb ofn dros y Nadolig ac yn y Flwyddyn Newydd.