Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Rwyf am hysbysu Aelodau am y cyhoeddiad diweddar bod yr Unity Group sy’n berchen ar Lofa’r Unity wedi gorfod gwneud cais i fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Glofa’r Unity yng Nghwmgwrach ger Castell-nedd yw un o lofeydd drifft mwyaf Cymru. Mae’n lofa adnabyddus ac uchel ei pharch sy’n cynhyrchu glo o’r ansawdd uchaf ar gyfer y farchnad cynhyrchu metel.
Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas dda â’r cwmni a hwnnw’n gwmni o bwys economaidd yng Nghymru a chanddo gynlluniau amlinellol ar gyfer ehangu yn y rhanbarth. Mae’r datblygiad diweddaraf hwn felly yn destun siom mawr, nid yn unig i economi Cymru ond hefyd i weithwyr y cwmni a’u teuluoedd.
Fodd bynnag, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r diwydiant wedi gorfod dygymod ag anawsterau, gyda’r cwymp ym mhris glo ar y marchnadoedd rhyngwladol yn rhoi pwysau aruthrol ar gwmnïau.
Er ein bod yn gweithio gyda’r cwmni i’w helpu heb dorri’r rheolau ar gymorth gwladwriaethol, mae pwysau a phroblemau ariannol ehangach wedi gorfodi’r cwmni i wneud y penderfyniad hwn.
Er hynny, mae trafodaethau â buddsoddwyr eraill yn mynd rhagddynt ac rwy’n croesawu bwriad y Cyfarwyddwr i ddiogelu’r gweithlu tra bod trafodaethau’n cael eu cynnal â phartïon eraill i godi arian a sicrhau dyfodol tymor hir i’r lofa a’i gweithlu.
Byddwn yn dal ati i weithio gyda’r cwmni a chyda’r gweinyddwyr i ystyried pob opsiwn i ddiogelu dyfodol y lofa yng Nghwmgwrach.