Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Yn dilyn y cyfnod Cofio diweddar pan fu’r wlad yn talu teyrnged i’n Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr a’u teuluoedd, rwy’n falch o roi gwybod i Aelodau’r Senedd am ddau ddatblygiad pwysig a phositif a fydd yn helpu i gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog ar draws Cymru.
Lansiwyd Arolwg Cyn-filwyr ar draws y Deyrnas Unedig gyfan gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr ar 10 Tachwedd. Nod yr arolwg yw dysgu mwy am fywydau’r gymuned Lluoedd Arfog, cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yn y DU. Mae’r cwestiynau yn yr arolwg yn gofyn am fynediad at wasanaethau ac amgylchiadau’r unigolion ers gadael y Lluoedd Arfog. Mae hefyd yn gofyn am eu ffordd o fyw, eu hiechyd a’u llesiant. Ynghyd â’r Cenhedloedd Datganoledig eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan lawn yn natblygiad yr arolwg. Bydd y data dienw o’r arolwg yn galluogi adrannau Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, cyrff cyhoeddus ac elusennau i barhau i fireinio’r cynlluniau ar gyfer cwrdd ag anghenion cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn y dyfodol.
Mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod nifer fawr wedi ymateb i’r arolwg, gan gynnwys o Gymru. Disgwylir i’r arolwg gau ym mis Chwefror 2023 a gall Aelodau’r Senedd helpu i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yn gwybod amdano. Gallwch ddod o hyd i’r arolwg yn: Yr Arolwg Cyn-filwyr - Office for National Statistics (ons.gov.uk)
Rwy’n falch hefyd o roi gwybod i Aelodau’r Senedd y daw Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog i rym ar 22 Tachwedd 2022. Bydd y ddyletswydd hon yn arwain at oblygiadau ar gyfer cyrff cyhoeddus sy’n gweithio yn y maes iechyd, tai ac addysg. Bydd disgwyl i gyrff roi sylw dyledus i’r Cyfamod wrth ddatblygu, cyflawni ac adolygu polisïau a phenderfyniadau yn ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog a helpu i wella eu mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu Canllawiau Statudol i gyd-fynd â’r ddyletswydd hon. Gellir dod o hyd i’r canllawiau hyn yn: Canllawiau Statudol Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig) - GOV.UK (www.gov.uk)