Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae gwella iechyd meddwl a llesiant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy'n cydnabod yr effaith y mae Covid-19 yn ei chael ar gymunedau gwledig, ac nid yw canslo nifer o ddigwyddiadau gwledig wedi helpu’r sefyllfa. Maent yn rhan bwysig o’r calendr amaethyddol, sy'n gyfle i ffermwyr ddod at ei gilydd a chymdeithasu.
Yng ngwanwyn 2019, sefydlodd fy swyddogion Grŵp Cefnogi Ffermydd Cymru, gan ddod ag elusennau gwledig sydd â chyswllt uniongyrchol ag amaethyddiaeth yng Nghymru ynghyd. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol i ystyried effaith Brexit, ers dechrau'r pandemig mae'r grŵp wedi cyfarfod yn fisol. Rwyf wedi mynychu nifer o'u cyfarfodydd a chael y cyfle i ddiolch iddynt am y gwaith a wnânt i gefnogi ffermwyr. Mae gwaith yr elusennau ffermio yn bwysicach nag erioed ac mae'n hanfodol bod pawb yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
Gan fyfyrio ar bwysigrwydd cefnogaeth yn ystod yr amseroedd heriol hyn a iechyd meddwl, lles ac iechyd a diogelwch yn fwy cyffredinol, rwy'n deall pwysigrwydd sioeau amaethyddol wrth ddarparu'r gefnogaeth hon a chomisiynais adolygiad annibynnol o gadernid sioeau amaethyddol ledled Cymru.
Gwnaeth yr adolygiad, a gynhaliwyd gan Aled Jones, gyfres o argymhellion i gefnogi cadernid ac adferiad sioeau amaethyddol ar gyfer y dyfodol.
Rwyf wedi sicrhau bod £25,000 ar gael i'r Gronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol a weinyddir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS). Fe fydd y gronfa newydd yn galluogi sioeau o bob maint i ddarparu gwell profiad i bob cystadleuydd yn ogystal â helpu paratoadau i adfer sioeau. Bydd canllawiau a manylion y broses ymgeisio ar gael ddechrau mis Mehefin.
Roedd yr adolygiad yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru lunio canllawiau i drefnwyr sioeau am y trefniadau ar gyfer cynnal digwyddiadau yn 2021 yn unol ag unrhyw gyfyngiadau iechyd cyhoeddus. Rydym yn gweithio gyda partneriaid diwydiant digwyddiadau i ddatblygu canllawiau er mwyn cynnal digwyddiadau awyr agored yng Nghymru unwaith eto.
Mae pecyn hyfforddi pwrpasol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO), RWAS a Lantra Cymru. Bydd yn helpu i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar gymdeithasau sioeau a'u gwirfoddolwyr gweithgar i gynllunio a threfnu sioeau pan ganiateir. Rwyf wedi sicrhau bod cyllid ar gael i alluogi100 o bobl i fynychu'r cwrs am ddim.
Cyhoeddais gymorth o £200,000 i RWAS ar gyfer 2020-21 ym mis Tachwedd. Ers hynny rwyf wedi dyfarnu cyllid uniongyrchol i Gymdeithasau Amaethyddol Sir Benfro, Ynys Môn, a Dinbych a Sir y Fflint i’w cefnogi yn y dyfodol ar ôl pandemig Covid-19.
Yn olaf, rwy'n cyhoeddi £69,000 i Menter a Busnes i gefnogi gwaith Partneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru. Fe'i sefydlwyd i helpu i leihau'r nifer annerbyniol o ddamweiniau difrifol a marwolaethau sy'n digwydd ar ffermydd ledled Cymru bob blwyddyn. Wedi'i gyflenwi ochr yn ochr â'r rhaglen Cyswllt Ffermio, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i atgyfnerthu gwaith rhagorol cyfredol y Bartneriaeth.