Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn cymorth gwerth mwy na £200m i fusnesau bach i'w helpu yn ystod yr achos o coronafeirws.

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael gostyngiad o 100% mewn ardrethi annomestig a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael lleihad o £5,000 ar eu bil. O dan y cynllun newydd hwn, ni fydd 20,000 o fusnesau yn talu ardrethi o gwbl yn 2020-21.

Bydd £100m pellach ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau bach. Bydd rhagor o fanylion am y cynllun grant newydd hwn yn cael eu cadarnhau cyn gynted â phosibl.

Bydd y cymorth hwn yn gweithredu yn ychwanegol at ein pecyn £230 miliwn bresennol o ryddhad ardrethi. Mae'n gwneud defnydd llawn o'r cyllid canlyniadol i Gymru sy'n deillio o gyhoeddiadau yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod bod maint argyfwng COVID-19 yn gofyn am ymyrraeth ariannol ar lefel y DU sydd heb ei debyg o’r blaen, er mwyn amddiffyn busnesau a swyddi. Heddiw mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys yn galw ar frys am ymyriadau mawr gan gynnwys gwyliau treth i fusnesau, tanysgrifennu cyflogau a chynyddu budd-daliadau i gyfyngu ar effaith yr argyfwng.

Darllenwch bost y Prif Weinidog Mark Drakeford am y mater hwn ar Twitter