Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ddydd Mawrth gwnes i, ynghyd â’r Gweinidog Newid Hinsawdd, gyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol, aelodau cabinet a swyddogion trafnidiaeth o bob rhan o Gymru i drafod gweithredu’r terfyn 20mya yn eu hardaloedd.
Roedd hyn yn gyfle i bwyso a mesur y broses weithredu ar draws y wlad, i rannu arferion da, ac i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Cofnodais hefyd fy niolch enfawr i’n partneriaid ym maes llywodraeth leol am eu cefnogaeth barhaus.
Maent wedi cyflawni tasg anferthol: penllanw blynyddoedd o ddadlau a thrafodaeth fanwl, cynlluniau treialu helaeth, a misoedd lawer o waith paratoi manwl cyn ei gyflwyno ledled Cymru ar 17 Medi.
Mae hwn yn newid pwysig, a bydd yn cymryd peth amser i bawb gyfarwyddo â’r terfyn newydd.
Yn sicr mae wedi bod yn her logistaidd. Roedd newid arwyddion ffyrdd ar y raddfa hon ac o fewn cyfnod mor fyr yn dasg na welwyd ei thebyg o'r blaen. Yn anffodus roedd y broses honno hyd yn oed yn fwy anodd yn sgil fandaliaeth annerbyniol ac anghyfreithlon o arwyddion ffyrdd mewn rhai mannau.
Ni fydd y gweithredu hyn yn arwain at newid i’r polisi a’r terfyn cyflymder diofyn ond mae wedi golygu bod adnoddau prin ac amser swyddogion yn cael eu gwastraffu ar adeg pan fo cynghorau’n wynebu amryfal bwysau.
Er gwaethaf galwadau gan rai pobl mae neges awdurdodau’r priffyrdd yng Nghymru yn gwbl glir – rydym eisiau caniatáu amser i bobl gyfarwyddo â’r terfynau newydd cyn i’r canllawiau ar eithriadau gael eu diwygio.
Byddwn yn parchu’r adborth yma ac rydym wedi cytuno i gydweithio ag awdurdodau priffyrdd lleol er mwyn ystyried y ffordd orau o weithredu’r canllawiau ar eithriadau mewn gwahanol rannau o Gymru. Byddwn hefyd yn ystyried sut rydym yn ymdrin â ffyrdd sydd ar y trothwy rhwng 20mya a 30mya, a hefyd yn cefnogi cynghorau os ydynt yn awyddus i ymdrin ag anomaleddau amlwg ar fyrder.
Bydd y gwaith hwn, ynghyd â’n trafodaeth ehangach gydag awdurdodau lleol ynghylch gweithredu’r terfyn 20mya, yn ein helpu i wybod a oes angen rhagor o eglurhad er mwyn annog rhagor o gysondeb ar draws Cymru. Byddwn yn anelu at rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu ynghyd ag unrhyw adborth erbyn diwedd y flwyddyn.
Hoffwn hefyd ddiolch i Phil Jones am ei gefnogaeth barhaus – ac i’r panel arbenigwyr y mae wedi’i arwain am fod mor barod i gynnig cyngor a chefnogaeth i awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod hwn ar ôl cyflwyno’r newid.
Yn olaf, rydym wedi cytuno i fod yn hyblyg o ran y cyllid sydd ar gael i gynghorau yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf fel bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i barhau i gyflwyno’r newid pwysig hwn.