Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod Cwestiynau Busnes ar 16 Ionawr, fe wnes i ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am bolisi sy’n ymwneud â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Pan ddes i’n gyfrifol am y portffolio yma, roedd ein cynllun ‘Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr’ eisoes yn destun ymgynghoriad. Roedd y ddogfen hon yn cyflwyno cynigion ar gyfer sut byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella mynediad at gyngor a gwasanaethau a lleihau’r anghydraddoldebau sy’n wynebu’r cymunedau hyn. Heddiw rydyn ni’n cyhoeddi dogfen grynodeb yr ymgynghoriad, sydd ar gael yma:


https://beta.llyw.cymru/galluogi-sipsiwn-roma-theithwyr


Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o ymweliadau â safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a chyfarfodydd gyda Chynghorau ledled Cymru i drafod yn benodol faterion hollbwysig mynediad at lety o ansawdd da ac ymgysylltu gwell â chymunedau, yn ogystal â phryderon penodol sy’n ymwneud â phob safle.


Er ein bod yn symud ymlaen yn dda at ddarpariaeth ddigonol o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, mae hyn yn rhy araf mewn rhai ardaloedd. Mae arnom eisiau sicrhau bod anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio yn cael eu herio ac ni fydd hyn yn gwbl effeithiol heb ddatblygu safleoedd preswyl a thramwy yn ddigonol. Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, rydyn ni wedi annog awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am ein Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ac rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi cylchlythyr cynllunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr wedi’i ddiweddaru yn nes ymlaen yn ystod y gwanwyn. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â Rhan 3 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ystod mis Ebrill a mis Mai i’m helpu i ddod o hyd i ardaloedd nad ydynt yn cydymffurfio mor llawn ag y dylent.


Mae hi’n glir o fy ymweliadau y gallai’r ymgysylltiad rhwng y cymunedau hyn ac awdurdodau cyhoeddus fod yn llawer gwell. Mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus ddileu camwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng Sipsiwn a Theithwyr a chymdeithas yn ehangach ond mae hi’n glir na fydd hyn yn effeithiol oni bai fod egwyddorion ‘5 ffordd o weithio’ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael eu defnyddio. Mae’n rhaid i Sipsiwn a Theithwyr fod yn rhan o drafodaethau am faterion sy’n effeithio arnyn nhw a rhaid ceisio dod o hyd i atebion cydweithredol. Rydyn ni’n gweithio i geisio gwella cyfleoedd ar gyfer hyn drwy amrywiaeth o fecanweithiau ond byddwn hefyd yn annog awdurdodau cyhoeddus eraill i ystyried hyn hefyd.


Rwyf hefyd wedi bod yn cael trafodaethau gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch beth allwn ni ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi Sipsiwn a Theithwyr. Rwyf yn bwriadu gohirio cyhoeddi’r cynllun Sipsiwn, Roma a Theithwyr newydd tan fis Mehefin 2018 er mwyn i ni gael amser i ystyried canlyniad y trafodaethau hyn. Byddaf hefyd yn cyflwyno datganiad arall gerbron y cyfarfod llawn i gyd-fynd â’i gyhoeddi.


Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.