Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
Rydym am i ganol trefi fod yn lleoedd gwych i fyw, dysgu, gweithio a chwarae ynddynt ac yn destun hyder, lles a balchder dinesig.
Ar hyn o bryd mae’n canol trefi yn wynebu heriau yn sgil pandemig y coronafeirws ond rwyf am wneud popeth y gallwn i sicrhau eu bod nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu i’r dyfodol.
I gefnogi ein canol trefi bydd hyd at £5.3m ar gael yn ystod 2020-21 i ariannu addasiadau a fydd yn eu gwneud yn ddiogel yn wyneb y coronafeirws. Bydd hyn yn cynnwys cyllid am fyrddau a chadeiriau ar gyfer yr awyr agored, cysgodlenni a photiau planhigion i sicrhau bod ardaloedd yn cael eu gwahanu a bod busnesau’n gallu gweithredu o dan y gofynion ymbellhau cymdeithasol cyfredol. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi'r defnydd dros dro o adeiladau gwag a sefydlu marchnadoedd lleol. Bydd y pwyslais ar sicrhau bod y camau gweithredu tymor byr hyn yn cael effaith barhaol o ran gwella golwg a naws canol trefi.
Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi cyhoeddi bod £3.7m pellach ar gael i gefnogi a gwella'r cynnig Trawsnewid Trefi yn rhanbarth y Cymoedd. Bydd hyn yn ychwanegol at yr arian sydd eisoes ar gael drwy'r agenda Trawsnewid Trefi ehangach. Caiff ei dargedu'n benodol at ganol trefi llai yn rhanbarth y Cymoedd a bydd yn canolbwyntio ar ymateb i effaith y coronafeirws, gan gynnwys cefnogi cymunedau i weithio'n agosach i'r cartref a theithio llesol.
Mae'r £5.3m rwy'n ei gyhoeddi wedi cael ei ailgyfeirio o'r rhaglen Trawsnewid Trefi ac mae'n adeiladu ar ein hymateb ehangach i’r pandemig, gan gynnwys:
- Cronfa trafnidiaeth gynaliadwy leol newydd gwerth £15.4m i'w gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl fynd o amgylch eu trefi drwy ddarparu gwell seilwaith teithio llesol a chynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cynnydd cadarnhaol hwnnw mewn teithio llesol yr ydym wedi'i weld yn ddiweddar yn parhau yn yr hirdymor.
- Ymestyn mesurau i ddiogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt, fel nad ydynt yn cael eu troi allan o’u safle tan 30 Medi. Bydd hyn yn sicrhau na chaiff unrhyw fusnes ei droi allan o'i safle os bydd yn methu taliad rhent yn ystod y tri mis nesaf.
- Pecyn ariannu i gefnogi Ardaloedd Gwella Busnes yng Nghymru gyda'u costau rhedeg am hyd at dri mis er mwyn helpu i sicrhau y gallant barhau, a bod ar flaen y gad o ran yr ymdrechion adfer yn eu trefi.
- Canllawiau’n ymwneud ag ailagor canol ein trefi a'r stryd fawr yn ddiogel, gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer y sectorau lletygarwch a manwerthu.
Ar ddechrau’r flwyddyn cyflwynais ein dull Trawsnewid Trefi gyda phecyn cymorth i ganol trefi gwerth £90 miliwn sy’n ychwanegu at fuddsoddiad rhagamcanol o £800 miliwn yn ein trefi ers 2014.
Byddwn yn cynnal ail gyfarfod y Grŵp Gweithredu Gweinidogol ar Ganol Trefi yn fuan. Sefydlais y grŵp i ystyried y ffordd orau o ddefnyddio’r arian presennol ac i flaenoriaethu camau gweithredu ac adnoddau pellach i roi hwb tymor byr i ganol trefi, a hefyd i nodi camau gweithredu a fydd yn sicrhau eu dyfodol hirdymor. Caiff y grŵp ei gefnogi gan grwpiau gweithredu rhanbarthol aml-ddisgyblaethol.
Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth i Aelodau ar ôl toriad yr haf .