Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru yw mudiad ieuenctid gwledig mwyaf Cymru. Mae ganddo ryw 6,000 o aelodau trwy 12 Ffederasiwn Sirol a 155 o glybiau lleol.
Cafodd CFfI Cymru wybod yn ddiweddar na fu eu cais am arian i Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa’r Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol yn llwyddiannus. Hoffwn esbonio eu bod yn brosesau cystadleuol ac y bu ceisiadau CFfI Cymru yn aflwyddiannus. Nid toriadau yn y gyllideb oedd y bai am eu methiant, fel y mae rhai wedi bod yn ei ddweud.
Mae trafodaethau rhwng CFfI Cymru a swyddogion o’m Hadran, ynghyd â thrafodaethau rhwng y mudiad a rhanddeiliaid eraill, wedi cadarnhau y bydd angen model busnes newydd ar y mudiad os yw am fynd yn ei flaen yn llwyddiannus. Fel ymateb i’r her hwn, bydd CFfI Cymru yn cynnal Rhaglen Galluogi Newid. Bydd y rhaglen yn cael cefnogaeth lawn fy swyddogion a bydd yn caniatáu i CFfI Cymru feithrin ei alluoedd a datblygu cynllun busnes 5 mlynedd fydd yn pennu cyfeiriad clir iddo ac yn nodi sut y gall greu incwm i ddiogelu ei ddyfodol. Rhan o gefnogaeth y Llywodraeth hon i’r rhaglen fydd grant i roi’r mudiad ar sylfeini cadarn. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r CFfI i adolygu hynt y Rhaglen Galluogi Newid i sicrhau bod y mesurau’n esgor ar y canlyniadau sydd eu hangen i sicrhau bod gan y mudiad ddyfodol cynaliadwy
Mae ar bob diwydiant llwyddiannus angen ei adfywio, gwaed newydd a syniadau newydd o bryd i’w gilydd, ac mae Llywodraeth Cymru trwy wahanol fentrau, gan gynnwys y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (YESS) ac Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, dwy fenter hynod lwyddiannus, yn benderfynol o weld pobl ifanc a thalentog â chymwysterau da yn dod yn eu blaenau i arwain busnesau fferm llwyddiannus ac yn tyfu’n arweinwyr o fewn y diwydiant amaeth ehangach. Mae ein hamcanion yn adleisio adolygiadau diweddar gan y Llywodraeth hon: adolygiad annibynnol Kevin Roberts o Gyfnerthedd Ffermio yng Nghymru, ac adroddiad Malcolm Thomas ar y Genhedlaeth Nesaf o Ffermwyr.
Cyhoeddodd yr Athro Wynne Jones Adolygiad annibynnol o'r hyn a addysgir gan golegau addysg bellach a pherthnasedd hynny o ran helpu busnesau ffermio yng Nghymru. Yn ei adroddiad, mae’r Athro Jones yn cydnabod y gwaith pwysig y mae CFfI Cymru’n ei wneud wrth wella sgiliau ei aelodau ac yn cydnabod bod y sgiliau sy’n cael eu dysgu trwy fod yn aelod o’r CFfI o fudd aruthrol i unigolion sydd am ddilyn gyrfa mewn ffermio a thu hwnt. Mae’n bwysig sylweddoli na fydd pob aelod o CFfI Cymru am ddilyn gyrfa mewn ffermio, ond fe fydd llawer am wneud a dyna pam mae’r mudiad yn fudiad mor bwysig i Lywodraeth Cymru.
Mae CFfI Cymru yn chwarae rhan bwysig gyda’r llywodraeth a rhanddeiliaid pwysig eraill i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a thrwy gefnogi’r mudiad yn ariannol dros y tymor byr, credaf eu bod yn cefnogi llwyddiant ac iechyd tymor hir ffermio yng Nghymru.