Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ar 9 Ionawr, fe wnes i ddatganiad mewn ymateb i’r llifogydd a darodd ein harfordir yn gynharach y mis hwn. Gofynnais i Cyfoeth Naturiol Cymru gydlynu adolygiad ar draws holl awdurdodau arfordirol Cymru. Yn y cyfamser, hoffwn roi rhagor o fanylion i chi am y difrod a’r cymorth y bwriadaf ei gynnig i’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio.

Unwaith yn rhagor, hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o’r ymateb i’r digwyddiad hwn a’r rhai sy’n dal i helpu gyda’r gwaith adfer. Mae’r gwasanaethau argyfwng, awdurdodau lleol a gwirfoddolwyr wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ardaloedd ar yr arfordir a’r cymunedau sydd wedi’u heffeithio yn gallu dychwelyd i’w sefyllfa arferol mor fuan ag y bo modd. Hoffwn roi diolch arbennig i Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith yn ystod y ddau achos o lifogydd arfordirol a darodd yn ystod blwyddyn gyntaf y corff newydd.

Rwy’n benderfynol o helpu’r awdurdodau sy’n wynebu costau sylweddol ar gyfer atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd hanfodol. Rwyf wedi adolygu fy nghyllidebau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a byddaf yn neilltuo £2 filiwn ym mlwyddyn ariannol 2013/14 i gynnal y gwaith brys ar y seilwaith amddiffyn rhag llifogydd.

Gallaf gadarnhau hefyd bod cyllid wedi’i neilltuo i Borth (£2m), Bae Colwyn (£5m) a Gorllewin y Rhyl (£2.1m) yn ystod y flwyddyn ariannol hon i wella cynlluniau hanfodol i amddiffyn yr arfordir.

Rwy’n gweithio gyda’m cyd-Weinidogion, yn enwedig ym maes adfywio, llywodraeth leol a threftadaeth, i gydlynu ein hymateb ar draws y llywodraeth a nodi ffynonnellau cyllid eraill a fydd yn sicrhau bod cymunedau megis Aberystwyth yn gallu ailgodi ar eu traed yn gyflym ac aros ar agor ar gyfer busnes.

Mae fy swyddogion wedi cysylltu â phob awdurdod a oedd wedi’u heffeithio i gael adroddiadau dechreuol am y difrod i seilwaith amddiffyn arfordirol ac asedau eraill ar yr arfordir yn stormydd mis Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014. Gofynnwyd hefyd i’r awdurdodau nodi’r cyllid oedd ei angen i ariannu gwaith atgyweirio brys i amddiffynfeydd ac asedau arfordirol eraill.

O edrych ar y darlun cychwynnol, ymddengys fod amddiffynfeydd arfordirol Cymru wedi perfformio’n dda ar y cyfan, gan ddiogelu miloedd o gartrefi a busnesau. Cafwyd difrod i rai strwythurau ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dal yn gweithio ac mae mwyafrif yr awdurdodau lleol yn datgan nad ydynt yn disgwyl y bydd angen cyllid grant llifogydd ac erydu arfordirol gan Lywodraeth Cymru i ariannu’r gwaith atgyweirio.

Mae’r awdurdodau canlynol wedi nodi difrod penodol i’w hamddiffynfeydd arfordirol a’u seilwaith:

  • Sir Ddinbych: Angen cynnal gwaith i ailadeiladu’r ail wal fôr yn y Rhyl, a fethodd yn ystod storm mis Rhagfyr 2013.
  • Conwy: gwaith sylweddol i atgyweirio difrod i amddiffynfeydd llifogydd ac adfer gwaddod  a gollwyd ar y traeth ym Mae Cinmel, Llanddulas a Morfa Conwy, yn ogystal â gwaith ar harbwr Deganwy.
  • Gwynedd: angen cynnal gwaith atgyweirio brys ar yr amddiffynfeydd arfordirol yng Nghricieth, Aberdyfi a Phwllheli.  Bwlch mawr yn y wal fôr yn Llanbedr hefyd, sy’n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru: angen gwaith atgyweirio brys yma gan fod llifogydd yn dal yn digwydd bob llanw uchel.
  • Ceredigion: yn Aberystwyth y mae angen y gwaith mwyaf, yn enwedig i drwsio’r difrod i’r amddiffynfeydd arfordirol ac i’r parth cyhoeddus gan gynnwys y prom hanesyddol.
  • Sir Benfro: gwaith byrdyrmor wedi’i gwblhau i drwsio’r ffordd a gafodd ei difrodi yn Amroth. Bydd angen gwaith pellach dros gyfnod hirach i drwsio’r wal fôr.

Mae’r awdurdodau lleol yn amcangyfrif ar hyn o bryd bod angen tua £2 filiwn i gynnal y gwaith atgyweirio brys ar y seilwaith amddiffyn rhag llifogydd. Fodd bynnag, rwy’n aros i ddarllen adroddiadau mwy cynhwysfawr Cyfoeth Naturiol Cymru cyn penderfynu ar yr anghenion cyllido pellach dros y tymor canolig a’r hirdymor. Cafwyd difrod hefyd i adeiladau hanesyddol, y seilwaith trafnidiaeth, a’r parth cyhoeddus, e.e. promenadau glan môr a Llwybr Arfordir Cymru.

Mae pecynnau cymorth ar gael i fusnesau sydd wedi dioddef effeithiau’r llifogydd  a stormydd diweddar ac rydym yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth i sicrhau bod pob sector yn cael gwybod am y cymorth sydd ar gael. Mae cyngor a chymorth ar gael drwy wefan Busnes Cymru a’r llinell gymorth.

Yn ychwanegol at yr uchod, rwy’n dal i edrych ar nifer o opsiynau cyllid o fewn ac oddi allan i Lywodraeth Cymru ac mae’r trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae fy swyddogion wedi cwrss â’r Comisiwn Ewropeaidd a byddant yn dal ati i drafod y cymorth sydd ei angen, yn awr ac yn yr hirdymor, i’r cymunedau sydd wedi dioddef dros y ddau fis diwethaf.

Wrth i lefel y môr godi oherwydd y newid yn yr hinsawdd, bydd rhaid inni barhau i wneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol ynghylch y ffordd orau o amddiffyn ein harfordir.