Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dyma ddiweddariad i aelodau ar gyfraniad y Gwasanaethau Brys yng Nghymru fel rhan o waith cymorth y DU yn sgil y corwynt yn Ynysoedd Philippines.

Mae gennym hanes cryf yn ein holl Wasanaethau Brys o gyfrannu adnoddau at waith cymorth gartref a thramor. Fel Cadeirydd Fforwm Cymru Gydnerth, rwy’n cwrdd yn rheolaidd ag uwch swyddogion y Gwasanaethau Brys ac asiantaethau ymateb eraill yng Nghymru. Rwy’n llwyr gydnabod a gwerthfawrogi ymroddiad ac ymrwymiad ein personél Gwasanaethau Brys i wasanaethu eu cymunedau eu hunain a chynnig cymorth pa le bynnag yn y byd y mae bywydau pobl mewn perygl.

Yn y blynyddoedd diwethaf, aeth saith diffoddydd tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i helpu gyda’r gwaith cymorth rhyngwladol yn dilyn daeargryn Haiti yn 2010. Fel aelodau o’r tîm chwilio ac achub rhyngwladol, llwyddodd y tîm i achub merch ddyflwydd a menyw trideg naw oed o rwbel adeiladau oedd wedi dymchwel. Dylem ni i gyd fod yn falch o’u gwaith a pharodrwydd yr holl staff Gwasanaethau Brys yng Nghymru sy’n barod i weithio mewn amgylchiadau anodd sy’n aml yn beryglus, gan anghofio am eu diogelwch eu hunain i helpu eraill mewn angen.

Rydyn ni i gyd wedi gweld y drychineb sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil Corwynt Haiyan, ac mae’n meddyliau gyda phawb y mae hyn wedi effeithio arnynt.

Mae gan Gymru gynrychiolaeth ar y Mecanwaith Amddiffyn Sifil Ewropeaidd, sy’n bodoli i helpu i drefnu cymorth brys gan Wladwriaethau Cyfranogol os bydd argyfyngau mawr. Yn wahanol i’r daeargryn yn Haiti, barnwyd fod y sefyllfa yn Haiti yn fater dyngarol yn hytrach na sefyllfa lle mae angen achub pobl. O ganlyniad, prif anghenion y wlad yw lloches, bwyd, dŵr a chymorth meddygol. Oherwydd hyn, nid oes galw wedi bod am gymorth gan ein Gwasanaethau Brys hyd yn hyn, ond mae Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU yn monitro’r sefyllfa o hyd, ac rydym yn barod i helpu os bydd angen.

Mae’r Pwyllgor Trychinebau ac Argyfyngau (DEC) wedi lansio apêl brys i godi arian i helpu i gludo bwyd, dŵr, lloches a moddion i’r goroeswyr. Corff ymbarél yw DEC sy’n cydgysylltu nifer o asiantaethau cymorth er mwyn gwneud gwaith cymorth uniongyrchol a hirdymor yn yr ardal yr effeithiwyd arni.

Mae pobl Cymru wedi dangos haelioni mawr i apelau DEC yn y gorffennol ac maent wedi dangos eu cymorth unwaith eto i helpu’r miliynau sy’n dioddef yn Ynysoedd Philippines. Mae Oxfam Cymru wedi’n hysbysu bod Cymru wedi rhoi £1,089,000 i DEC erbyn 25 Tachwedd.

Rwy’n annog pobl Cymru i barhau i ddangos y gefnogaeth hon a rhoi popeth y gallant i helpu’r bobl yn Ynysoedd Philippines y mae’r drychineb hon wedi effeithio arnynt.

I wneud cyfraniad i apêl DEC, ewch i www.dec.org.uk neu ffoniwch 0370 60 60 900