Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Rwy'n cefnogi rôl cynghorau tref a chymuned oherwydd eu rôl hanfodol mewn llywodraeth leol. Nhw sydd agosaf at y bobl a chymunedau lleol, ac maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wella llesiant yn eu hardaloedd.
Mae'r adolygiad annibynnol o’r sector cynghorau tref a chymuned bron wedi ei gwblhau. Bûm mewn cyfarfod ag aelodau'r Panel ar 13 Mehefin, ac rwyf wedi cael eu casgliadau a’u hargymhellion diweddaraf yn 17 Gorffennaf.
Rwy’n falch bod y Panel wedi cymryd camau i ymgysylltu’n effeithiol â’r sector wrth ddatblygu ei argymhellion. Mae’r Panel bellach wrthi’n gweithio ar ei argymhellion terfynol er mwyn eu cynnwys yn ei adroddiad terfynol a fydd yn cael ei gyflwyno imi yn yr hydref. Rwy’n deall bod y Panel yn bwriadu rhannu ei gasgliadau, ac y bydd yn cynnal sesiynau gwybodaeth yn ystod yr haf.
Bu cwmpas eang i waith y Panel, ac mae wedi llunio casgliadau cynhwysfawr sy’n mynd ati i ddiffinio cynghorau cymuned a thref, gan edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud, sut y maent yn cyflawni eu gwaith, a’u hatebolrwydd. Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth ar ôl cael yr adroddiad terfynol.
Mae'n bwysig meithrin perthynas adeiladol, sy'n fuddiol i'r ddwy ochr, rhwng cynghorau cymuned a thref a'r prif gynghorau, ac mae hyn wedi bod yn thema amlwg yn y dystiolaeth a gasglwyd gan y Panel. Rwy'n edrych ymlaen at ystyried ei syniadau a’u hargymhellion newydd ar gyfer cryfhau'r berthynas hon.
Ddeng mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd y canllawiau gwreiddiol ar weithredu mesurau a siarteri meithrin cysylltiadau, 'Cymuned ar y Cyd', ar gyfer awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref. Roedd y canllawiau hynny'n ffrwyth ymchwil a chydweithredu rhwng Llywodraeth y Cynulliad ar y pryd, Un Llais Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, a chynrychiolwyr o gynghorau cymuned a thref ac awdurdodau lleol.
Rwy'n awyddus i weld mwy o ddulliau effeithiol o weithio yn cael eu sefydlu ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref, ac i greu platfform ar gyfer rhannu enghreifftiau da. Yn nes ymlaen eleni, gan adeiladu ar ddigwyddiad tebyg a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2017 yn adeilad y Pierhead, rwy'n bwriadu cynnal digwyddiad i gynghorwyr o awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref.
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i rannu arferion sy'n ffurfioli cysylltiadau rhwng y ddau sector llywodraeth leol, a thrafod sut y gall y cysylltiadau rhyngddynt hwyluso'r broses o drosglwyddo gwasanaethau ac asedau.
Ochr yn ochr â hyn, rwy'n bwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu i sicrhau bod cynghorau cymuned a thref yn fwy effeithiol a chadarn yn y tymor byr a'r tymor canolig, ac i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i ymgysylltu fel partneriaid cyfartal ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.
Rwyf wedi neilltuo rhywfaint o gyllid yn 2018-19 i helpu cynghorau cymuned a thref i sefydlu trefniadau gweithio cychwynnol ar y cyd mewn perthynas â themâu'n ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned; denu mwy o ddinasyddion i gyfranogi ac i gymryd rhan mewn democratiaeth leol; a sefydlu trefniadau ar gyfer cydweithio ar wasanaeth a ddarperir ar y cyd.
Mae cynghorwyr a chlercod cynghorau yn cael eu cymell i ddilyn hyfforddiant drwy fod cynlluniau bwrsari yn dal i gael eu hariannu er mwyn annog cynghorau llai, sydd â throsiant blynyddol o dan £40,000, i fanteisio ar yr hyfforddiant a ddarperir.
Cyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, 'Canllaw y Cynghorydd Da', sef fersiwn ohono sydd wedi ei diweddaru ers 2012. Mae'r canllaw yn gyflwyniad i'r hyn sydd ynghlwm wrth gyflawni dyletswyddau cynghorydd cymuned neu gynghorydd tref, ac er ei fod yn addas ar gyfer pob cynghorydd, mae'n arbennig o ddefnyddiol i'r rheini sydd newydd eu hethol neu eu cyfethol i gyngor.
Roedd y cynghorau cymuned a thref wedi gofyn am gael mynediad haws at wybodaeth berthnasol a chyfredol i'w helpu wrth iddynt ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros fwy o asedau cymunedol. Rydym wedi gweithio gyda'r sector i ddeall eu hanghenion yn well, a maes o law byddwn yn cyhoeddi pecyn cymorth ar-lein, a fydd yn cynnwys rhestrau gwirio, templedi, ac astudiaethau achos, fel canllaw defnyddiol iddynt gyfeirio ato. Ein bwriad yw datblygu a theilwra'r adnodd hwn ymhellach yn ystod 2018-19.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.