Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yr wyf wedi gweld yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan bapur newydd y Daily Telegraph mewn perthynas â’r seminarau arholi a gynhaliwyd gan y byrddau arholi, CBAC yn benodol, lle  ymddengys bod gwybodaeth am bynciau a chwestiynau arholiadau sydd i’w cynnal yn y dyfodol wedi cael ei rhyddhau. Mae’r cyhuddiadau hyn yn rhai difrifol iawn.

Yn rhinwedd fy swydd fel y Gweinidog Addysg, yr wyf wedi siarad yn bersonol â Phrif Weithredwr CBAC fore heddiw, ac mae wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad llawn a thrylwyr i’r mater hwn. Rwy’n deall bod yr unigolion sydd wrth wraidd cyhuddiadau’r Daily Telegraph bellach wedi cael eu hatal dros dro o’u dyletswyddau gyda CBAC, yn amodol ar gasgliad yr ymchwiliad. Gan fod y ddau unigolyn dan sylw yn athrawon wrth eu gwaith rwyf wedi gofyn i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ymchwilio i’r mater.

Mae fy swyddogion wedi cwrdd â chynrychiolwyr OFQUAL heddiw i drafod y cyhuddiadau a wnaed a’r ymchwiliad y bydd OFQUAL yn ei gynnal. Mae Prif Weithredwr OFQUAL wedi gofyn i’r Daily Telegraph ddarparu manylion llawn eu canfyddiadau, sy’n cynnwys deunydd fideo ac unrhyw drawsgrifiadau ac mae wedi addo rhannu’r dystiolaeth hon â Llywodraeth Cymru. Mae CBAC yn cydweithredu â’r rheoleiddwyr ac mae wedi darparu manylion ynghylch ei ymchwiliad ei hun. 

Mae’n hanfodol sicrhau bod hygrededd llwyr i’n system arholi, ei bod yn deg i ddysgwyr a’i bod yn ennyn hyder y cyhoedd.

Byddaf yn aros i glywed canlyniadau’r ymchwiliadau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ac yn gwneud datganiad pellach bryd hynny.