Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn diweddaru'r cyhoeddiad a wnaed ddydd Mercher gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ynghylch cau Canolfan Fudd-daliadau Llanelli, Canolfan Ddyledion y Porth a Chanolfannau Gwaith Aberpennar, Pyle a Thredegar ac ynghylch adleoli staff.
Mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Rwy'n deall y caiff y 150 sy'n gweithio yn Llanelli eu hadleoli. Mae 93 o'r staff yng Nghanolfan Ddyledion y Porth am gael eu symud i Ganolfan Gwaith Tonypandy yn lle Caerffili fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Mae hyn i'w groesawu. Mae'r DWP wedi dweud y byddan nhw'n agor adeilad mawr modern erbyn 2021 i'r gogledd o Gaerdydd lle byddan nhw'n gallu dod â 5 canolfan brosesu lai gerllaw ynghyd i ehangu'u gwasanaethau a chreu swyddi yn yr ardal.
Mae'r DWP wedi penderfynu ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd y caiff gwasanaethau a staff yng Nghanolfan Gwaith Aberpennar eu symud i Ganolfan Gwaith Aberdâr ac y caiff gwasanaethau a staff Canolfan Gwaith y Pîl eu symud i Ganolfan Gwaith Porthcawl. Bydd y DWP yn symud staff a gwasanaethau hefyd o Ganolfan Gwaith Tredegar i Lynebwy.
Siaradais â Damian Hinds AS, y Gweinidog Cyflogaeth ddydd Mercher i ddweud fy mod yn poeni'n ddirfawr am y penderfyniad i gau'r swyddfeydd budd-daliadau a Chanolfannau Gwaith hyn ac i adleoli swyddi. Esboniais wrtho ein bod yn hynod siomedig nad oedd Gweinidogion y DWP wedi gweld yn dda i gysylltu â ni gyntaf i ystyried atebion posib eraill cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Pwysais arno bod angen inni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod unrhyw un sy'n cael ei adleoli ond sy'n methu â symud yn cael ei helpu, a byddaf yn cwrdd â'r Gweinidog Cyflogaeth ddydd Iau.
Rydym ar ddeall bod y DWP yn gweithio i sicrhau nad oes swyddi'n cael eu colli o ganlyniad i'r adleoli, a bod staff yn cael cynnig swyddi eraill os nad ydyn nhw'n gallu symud. Rydym wedi gofyn i'r DWP roi'r manylion ar gyfer y swyddfeydd a'r Canolfannau Gwaith dan sylw ar frys, gan gynnwys pryd y byddan nhw'n cau.
Rydym ni'n gwybod bod swyddi diogel yn allweddol i fywyd gwell ac iechyd gwell a gwnawn bopeth yn ein gallu i helpu gweithwyr y DWP yng Nghymru y mae'r cyhoeddiad hwn wedi effeithio arnyn nhw. Gallaf gadarnhau y byddwn yn gweithio â phawb fydd yn colli eu swydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael help y Cynllun ReAct lle bo hynny'n bosibl.
Rydym yn gytûn fel Llywodraeth y gallwn helpu'n cymunedau, trwy ddefnyddio prosesau caffael cyhoeddus mewn ffordd fwy creadigol a chydgysylltiedig, i fod yn gryf yn wyneb yr heriau economaidd trwy greu economïau lleol a rhanbarthol mwy cynaliadwy ym mhob rhan o Gymru.
Trwy ein rhaglen Swyddi Gwell Yn Nes Adref, rydym yn gweithio i wneud yn siwr bod manteision buddsoddiadau mawr yn dod yn ôl i gymunedau Cymru er mwyn cefnogi cadwyni cyflenwi a symbylu buddsoddiad mewn cymunedau amddifad. Mae'r cynllun Swyddi Gwell am dreialu ffordd o weithio allai helpu i drechu tlodi, datblygu gweithwyr crefftus, rhoi polisi caffael arloesol ar waith a chefnogi busnesau i dyfu trwy greu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd mawr.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu 'Symud Cymru Ymlaen' yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio'r cymorth i bobl sy'n barod i weithio ac sy'n bell o swyddi i fod yn fwy cyflogadwy ac i ennill y sgiliau a'r profiad i gael a chadw swydd gynaliadwy. Wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi datganiad ar Gyflogadwyedd gan osod ein hagenda i ddiwygio'r cymorth ar gyfer yr economaidd anweithgar a'r rheini sydd mewn swyddi ansicr i'w gwneud yn fwy cyflogadwy. Byddwn yn gosod allan yr agenda mewn Cynllun Cyflawni Cyflogadwyedd ac yn sail i hwnnw bydd ein cynnig newydd sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglenni cyfredol, fel Twf Swyddi Cymru a ReAct. Bydd gan Gymru seilwaith o gymorth o hyd i helpu unigolion sy'n colli'u swyddi.