Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Porthladd Caergybi wedi bod ar gau ers y penwythnos diwethaf oherwydd difrod i seilwaith angori allweddol a achoswyd gan Storm Darragh. Wrth i'r wythnos fynd rhagddi, mae wedi dod i'r amlwg bod y difrod yn helaethach nag a feddyliwyd yn wreiddiol ac efallai y bydd yn cymryd cryn dipyn o amser i'w atgyweirio.

Ddydd Iau, trefnais gyfarfod gyda Phorthladd Caergybi ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa. Yn dilyn hynny, mae Awdurdod Porthladd Caergybi wedi dynodi y bydd y Porthladd yn parhau ar gau tan 19 Rhagfyr 2024 o leiaf.

Rwy’n ymwybodol iawn o’r effeithiau sylweddol y mae’r cau parhaus yn eu cael ar symudiadau logisteg rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, yn enwedig o ystyried y galw tymhorol uchel am ddosbarthu nwyddau’n brydlon. Deallaf fod nwyddau sydd ar eu ffordd i Weriniaeth Iwerddon yn dargyfeirio dros dro i borthladdoedd eraill ar arfordir gorllewinol y DU. Rwy’n ddiolchgar am yr hyblygrwydd a’r gwydnwch sy’n cael ei ddangos unwaith eto gan ein sector logisteg mewn ymateb i ddigwyddiad sy’n tarfu fel hyn.

Fodd bynnag, mae'n hollbwysig bod Porthladd Caergybi yn adfer ei allu gweithredol cyn gynted â phosibl. Deallaf fod y Porthladd yn canolbwyntio ar adfer un o’i angorfeydd gydag amserlen ddiwygiedig, fel cyfrwng i adfer capasiti’r fferïau cyn gynted â phosibl. Rhaid i ddiogelwch barhau i fod yn flaenoriaeth, felly ni fydd y Porthladd yn ailddechrau ei wasanaethau nes bydd yn gwbl barod i wneud hynny, ond rydw i’n gwybod bod y tîm yn y Porthladd yn gweithio mor galed ag y gallant i ailddechrau gweithredu ar y cyfle cynharaf posibl. Mae’r tîm yn y Porthladd yn cydnabod, fel yr wyf fi, bwysigrwydd darparu gwybodaeth ddibynadwy, gyfredol i’r sector cyhoeddus a logisteg wrth i waith adfer gwasanaethau fynd rhagddo.

Mae swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad agos â’r holl randdeiliaid perthnasol, gan gynnwys yng Ngweriniaeth Iwerddon ac yn Llywodraeth y DU, i ddeall graddfa lawn y difrod yn y Porthladd a phryd bydd y cyswllt masnach hanfodol hwn yn ailagor. Rwyf wedi annog tîm arwain y Porthladd i gysylltu â ni os oes arnynt angen cymorth gan unrhyw Lywodraeth i ailddechrau eu gwasanaethau. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa dros y penwythnos.

Byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr y Porthladd a rhanddeiliaid lleol eto ar 18 Rhagfyr i gael diweddariad pellach am y cynnydd tuag at adfer gwasanaethau. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Senedd ar ôl y cyfarfod hwn.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.