Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd
Testun tristwch mawr yw bod ffatri Ford ym Mhen-y-bont yn cau ei drysau fory (25 Medi) am y tro olaf.
Fel y gŵyr aelodau, mae Ford wedi bod yn rhan annatod o fywyd Pen-y-bont am ragor na 40 mlynedd ac mae’n amlwg y bydd yr economi a’r gymuned leol yn teimlo effeithiau penderfyniad y cwmni i adael y dref am lawer blwyddyn i ddod.
Er fy mod yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant ceir yn sgil newidiadau technolegol a deddfwriaethol, er hynny, mae penderfyniad Ford, heb os, yn ergyd ofnadwy i’r gweithwyr, i Ben-y-bont ac i economi’r rhanbarth ac yn benderfyniad sydd wedi fy siomi’n fawr.
Yn dilyn y cyhoeddiad, sefydlais Dasglu o dan gadeiryddiaeth Richard Parry-Jones, arbenigwr o fri rhyngwladol yn y diwydiant ceir, chyda chynrychiolwyr Ford, Llywodraeth y DU, undebau llafur, Cyngor Pen-y-bont, Dinas-Ranbarth Caerdydd, Fforwm Moduro Cymru ac aelodau busnesau a’r gymuned leol yn aelodau ohono. Mae’r Tasglu wedi gweithio’n ddiflino i ddod â’r holl bartneriaid ynghyd i ymroi i helpu’r rheini yr effeithir arnyn nhw, i ddenu buddsoddiad newydd ac i sbarduno cyfleoedd gwaith lleol.
Fel ymateb, mae Ford wedi sefydlu Cronfa Gwaddol Gymunedol gwerth £1 miliwn y caiff elusennau a mudiadau cymunedol, wedi’u henwebu gan y gweithwyr, wneud cais iddi. Gellir defnyddio’r arian i brynu offer, adeiladu cyfleusterau newydd neu ailwampio neu wella adeiladau. Mae dros 170 o geisiadau wedi dod i law oddi wrth glybiau chwaraeon cymunedol, elusennau profedigaeth, iechyd meddwl, anabledd a hanes lleol, yn ogystal ag oddi wrth ysgolion, hosbisau a grwpiau ieuenctid.
Mae’r Tasglu wedi pwyso hefyd ar Ford am nawdd Ymchwil a Datblygu ar gyfer datblygu technoleg ceir carbon isel ac mae’n bleser gen i’ch hysbysu i gyd bod Ford wedi creu Cronfa Ymchwil a Datblygu gwerth £2 miliwn i gefnogi’r gwaith hwn. Y bwriad yw i’r Gronfa dargedu busnesau bach a chanolig a phrosiectau academaidd a chaiff ei gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Tasglu wedi gweithio hefyd i ddenu buddsoddwyr newydd i’r safle ym Mhen-y-bont, o dan amodau economaidd anodd iawn i economi’r DU, gyda Brexit ac effeithiau difäol Covid-19 yn gwaethygu’r amodau hynny.
Er gwaetha’r heriau byd-eang hyn, mae aelodau’r Tasglu rhyngddynt wedi troi at eu rhwydweithiau eang ac ysgogi dwsinau o ymholiadau ynghylch y safle gan amrywiaeth eang o sefydliadau gyda chynigion ar gyfer technolegau arloesol newydd fel ffeibr carbon, cynhyrchu celloedd batri, cynhyrchu ynni a datblygu cerbydau hunan-reolaeth. Mae Ford yn trafod â nifer o’r sefydliadau hyn am gyfleoedd iddynt fuddsoddi yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae penderfyniad INEOS Automotive i beidio wedi’r cyfan â buddsoddi yn safle Brocastell, Pen-y-bont yn ergyd arall i’r ardal ac yn siom aruthrol, yn enwedig o ystyried y gwaith helaeth a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar isadeiledd y safle i angori’r prosiect yno yn sgil cyhoeddiad y cwmni i fuddsoddi. Er hynny, mae nifer o ymholiadau wedi dod i law ynghylch y safle strategol mawr hwn o eiddo Llywodraeth Cymru, ac rydym wrthi’n ymroi i fynd â’r rhain yn eu blaenau.
Un o brif flaenoriaethau’r Tasglu yw helpu’r gweithwyr sy’n wynebu diweithdra yn sgil penderfyniad Ford i adael Cymru. Gan gydweithio â Ford, yr Undebau a’u hasiantaeth chwilio am swyddi, mae’r Tasglu wedi trefnu cymorth gwaith trwy’r holl asiantaethau lleol a chenedlaethol perthnasol, gan osgoi dyblygu gwaith a sicrhau pecynnau penodol i bawb sydd wedi teimlo effeithiau’r cau.
Ar ddyddiad y datganiad hwn, o’r 1,644 o bobl oedd yn gweithio ar y safle cyn y cyhoeddiad i gau’r safle, manteisiodd y mwyafrif llethol ar hyfforddiant i’w gwneud yn fwy cyflogadwy; dewisodd 236 i ymddeol neu i gymryd tâl diswydd ac mae 362 o weithwyr wedi cael swydd newydd neu wedi dechrau busnes. Bydd dros 120 o weithwyr yn aros ar y safle am rai misoedd i helpu â’r datgomisiynu a bydd 50 arall yn parhau’n gyflogedig gan Ford ac yn cael eu symud i safleoedd eraill.
Fe wnawn ni barhau i wneud popeth y gallwn ni i helpu’r gweithwyr hyn i gael hyd i swyddi newydd trwy ein menter “Cymru wrth ei Gwaith” mewn cydweithrediad â rhwydwaith o randdeiliaid lleol fel Cyngor Pen-y-bont, Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith, i roi amrywiaeth o gyngor a help ymarferol.
Rydym yn gwybod bod yr ymdrechion eang i symud at gymdeithas carbon isel wedi sbarduno cwmnïau ceir i brysuro’u gwaith i drydaneiddio. Mae hyn wedi sbarduno creu cynghreiriau newydd, busnesau newydd yn y diwydiant a chadwyn gyflenwi a sgiliau newydd. Rydym yn benderfynol o fanteisio ar y cyfle hwn. Mae Aston Martin eisoes wedi dewis Parc Busnes Bro Tathan i fod yn gartref i’w rhaglen drydaneiddio ac rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw trwy annog eraill i’w dilyn.
Byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i ddenu buddsoddwyr newydd i’r ardal trwy ganolbwyntio lle medrwn ar y cyfleoedd a grëir gan dechnoleg y genhedlaeth nesaf. Daw cyfleoedd yn sgil newid, ac rydym am weld Cymru’n tyfu’n ganolfan i’r technolegau newydd y bydd y sector yn chwilio amdanyn nhw.
Er enghraifft, ddydd Llun yr wythnos hon, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynhadledd bwysig ar Ddyfodol Gweithgynhyrchu yng Nghymru gyda thros 250 o bobl yn logio i mewn ar gyfer y rhith-gynhadledd hon. Denwyd llywodraeth, diwydiant ac arweinwyr academaidd ynghyd i asesu’r effeithiau economaidd diweddaraf ar ein diwydiannau strategol, fel y diwydiant ceir, a’r camau sydd angen eu cymryd i’w helpu i oroesi ac i fod yn gynaliadwy. Roedd yn ddechrau hefyd ar ymgynghoriad 4 wythnos ar gynllun newydd ar gyfer gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Rwy’n benderfynol y gallwn, gyda’n gilydd, greu dyfodol cryf a llwyddiannus ar gyfer gweithgynhyrchu uchel ei werth, gyda’r sector modurol yn gyfrannwr pwysig ato.