Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafwyd adroddiadau yn y wasg yn ddiweddar yn codi pryderon yngylch y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer casglu a gwaredu gwastraff clinigol yn Lloegr a’r Alban. Roedd nifer o’r erthyglau hyn yn sôn am storio rhannau o gyrff ac yn cyfeirio at y ffaith fod y cwmni dan sylw wedi mynd y tu hwnt i delerau’r trwyddedau a roddwyd iddo gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer storio gwastraff clinigol ar safleoedd penodol.

Nid yw’r cwmni dan sylw, Healthcare Environmental Services Limited, yn gyfrifol am gasglu a gwaredu gwastraff clinigol yng Nghymru. Cafodd Contract Cymru Gyfan y GIG ar gyfer Gwastraff Clinigol ei ddyfarnu i gwmni arall nad oes cysylltiad rhyngddo a’r cwmni uchod. Rheolir y contract gan Wasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG ar ran GIG Cymru. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng y cwmni a chynrychiolwyr GIG Cymru i fonitro perfformiad y contract. Nid oes unrhyw faterion sy’n peri pryder wedi’u hadrodd mewn perthynas â’r contract yng Nghymru.