Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennym gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gynlluniau i fuddsoddi mewn data gwell ar gyflwr tai a mesurau effeithlonrwydd ynni yng Nghymru. 
Mae tai o ansawdd yn hollbwysig ar gyfer lles pobl.  Rydym i gyd yn gwybod bod amodau byw gwael yn effeithio ar iechyd corfforol a iechyd meddwl person, yn ogystal â'n gallu i ffynnu, gydag effeithlonrwydd ynni gwael yn effeithio ar ein gallu i gynnal cartref cynnes, a’r angen ehangach i gyrraedd targedau o ran lleihau gollyngiadau carbon a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.  Gall diffyg tai addas effeithio ar allu ardal i ddenu cyfleoedd cyflogaeth. Mae hefyd yn rhwystr i greu cymunedau cadarn a chydlynol sydd yn cwrdd ag anghenion pawb, gan gynnwys plant.  
Mae ein hamcanion llesiant newydd yn adlewyrchu pwysigrwydd ymateb i'r heriau hyn, ac mae angen polisïau effeithiol sydd wedi'u targedu'n dda, yn ogystal â rhaglenni a ffrydiau cyllid ar draws Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar ddata a thystiolaeth sy'n gadarn ac yn amserol.  Gyda buddsoddiad o £1.8 miliwn dros y tair blynedd nesaf, bydd y rhaglen casglu data newydd hon yn sicrhau y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.  Bydd y rhaglen yn cyd-fynd â'n Harolwg Cenedlaethol, yn ogystal â bod yn sail i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a helpu i ddilysu ein gwaith ar effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio.  Bydd y rhaglen dair blynedd yn cynnwys:
  • arolwg o gyflwr tai ledled Cymru yn 2017-18;   
  • gwaith modelu a dadansoddi o ran cyflwr tai a thlodi tanwydd;  
  • datblygu a chynnal ‘cronfa sylfaen anheddau’ a fydd yn dod â data dienw presennol ynghyd oddi wrth ystod eang o ffynonellau ynghylch tai yng Nghymru, er mwyn creu sail dystiolaeth gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau.  Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gysylltu â datblygiadau data eraill o bwys, gan gynnwys y rheini yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Bydd y gwaith datblygu a chyflawni ar gyfer y rhaglen bwysig hon yn cael ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid allanol a byddant hefyd yn gallu defnyddio'r data fel sail i'w gwaith nhw.  Bydd y data gwell yn sail i ddau o'r Dangosyddion Cenedlaethol sy'n gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (cartrefi sy'n rhydd rhag peryglon a chartrefi sydd â mesurau effeithlonrwydd ynni digonol) ac felly, bydd hyn yn cyfrannu at y broses fonitro ehangach o'n cynnydd fel cenedl yn erbyn y nodau llesiant.
Mae trosolwg o'r Rhaglen Dystiolaeth ar Gyflwr Tai wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, a darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen drwy'r porth yn rheolaidd.