Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad terfynol Cam 1 o’r Adolygiad o Archwilio, Arolygu a Rheoleiddio yng Nghymru.
Mae’r Adolygiad yn cyflawni’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu
“Adolygu'r fframwaith ar gyfer craffu allanol ar wasanaethau cyhoeddus a gwaith ein harchwilwyr, arolygwyr a rheoleiddwyr.” Comisiynwyd ymchwilwyr annibynnol allanol i gyflawni gwaith ar Gam 1 yr Adolygiad - pennu drwy gonsensws ddiben archwilio, arolygu a rheoleiddio.
Cyhoeddwyd yr adroddiad drafft ar Gam 1 ar gyfer ymgynghoriad ym mis Ionawr 2014. Roedd hyn yn cyd-fynd â chyhoeddi ac ystyried canfyddiadau’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.
O ganlyniad, gofynnwyd i’r ymchwilwyr ymgymryd â gwaith pellach ar yr Adolygiad gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ei fod yn rhoi ystyriaeth i ganfyddiadau’r Comisiwn. Mae’r gwaith hwn wedi’i gwblhau ac mae crynodeb o’r canlyniadau yn yr adroddiad a gyhoeddir heddiw.
Mae’r Adroddiad yn nodi fframwaith ar gyfer adolygiad allanol sy’n nodi nodweddion a diben craidd adolygiad allanol a phrif gyfraniadau o swyddogaethau archwilio, arolygu a rheoleiddio.
Heddiw hefyd rwyf wedi cyhoeddi ein Papur Gwyn, Diwygio Llywodraeth Leol – Grym i Bobl Leol. Mae hwn yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol craffu ac adolygu, yn fewnol ac yn allanol, wrth wella gwasanaethau lleol yng Nghymru. Felly, bydd gwaith yn y dyfodol ar rôl archwilio, arolygu a rheoleiddio yng Nghymru yn cael ei ddatblygu ymhellach drwy weithredu’r cynigion a nodir yn ein Papur Gwyn.