Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhwng 23 a 27 Rhagfyr, caiff dwy aelwyd – ynghyd ag aelwyd un person – uno i ffurfio swigen Nadolig unigryw. Mae rhagor o fanylion am y trefniadau hyn ar gael yma: https://llyw.cymru/ffurfio-swigen-nadolig-gyda-ffrindiau-theulu

Fodd bynnag, pan ddaw pobl ynghyd mae bob amser risg o ledaenu’r coronafeirws gan fod y feirws hwn yn ffynnu ar gysylltiad rhwng pobl. Rydym yn annog pawb sy’n gwneud cynlluniau ar gyfer y Nadolig i feddwl yn ofalus am sut y gallant leihau eu risg o ddal – a lledaenu – y coronafeirws a diogelu eu hanwyliaid, yn enwedig aelodau o’r teulu sy’n fwy agored i niwed.

Mae rhai teuluoedd wedi gwneud y penderfyniad anodd i gael Nadolig bach eleni, gan ddewis aros tan y flwyddyn nesaf, a’r gobaith y mae brechlynnau yn ei gynnig, ac aros hyd nes y bydd y cyfyngiadau wedi’u llacio cyn gweld aelodau eraill o’u teulu.

Mae hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o anodd i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd – maent wedi bod ar wahân am fisoedd lawer. Rwy’n gwybod bod hyn wedi bod yn anodd tu hwnt iddynt ac wedi cael effaith ddofn arnynt hwy i gyd.

Rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl sydd â theulu agos ac anwyliaid sy’n byw mewn cartrefi gofal yn gobeithio treulio amser gyda nhw dros y Nadolig – naill ai yn eu cartref neu yn y cartref gofal.

Gan fod sefyllfa bresennol y coronafeirws yn parhau i fod yn ddifrifol yng Nghymru, byddwn i’n annog pawb yn y sefyllfa hon i drafod y mater hwn â darparwr y cartref gofal. Ni waeth pa mor ofalus ydym ni i gyd, nid oes neb eisiau mentro cyflwyno’r coronafeirws i’n cartrefi gofal.

Mae’n hynod heriol o hyd i sicrhau cydbwysedd priodol rhwng amddiffyn hawliau unigolion a chefnogi eu lles â’r angen i ddiogelu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal rhag y perygl o gael eu heintio. Yn ôl cyngor iechyd y cyhoedd, os bydd preswylwyr cartrefi gofal yn ymweld â’u teuluoedd dan do a thros nos dros gyfnod y Nadolig bydd perygl y cânt hwy, a phreswylwyr eraill y cartref gofal, eu heintio â’r coronafeirws.

Dylai’r unigolyn, ei deulu a darparwr y cartref gofal feddwl am y perygl hwn wrth ystyried ymweliadau y tu allan i’r cartref gofal. Gall darparwyr cartrefi gofal a theuluoedd gymryd camau i liniaru’r perygl sy’n gysylltiedig ag ymweliadau y tu allan i’r cartref gofal, ond ni ellir osgoi’r perygl hwnnw yn llwyr.

Dylid seilio unrhyw benderfyniad i dreulio amser i ffwrdd o’r cartref gofal yn ystod y pum diwrnod dros y Nadolig pan fydd y trefniadau cyffredin ledled y DU ar waith – rhwng 23 a 27 Rhagfyr – ar asesiad risg trylwyr, sy’n cynnal hawliau a dewis ac sy’n cynnwys y darparwr cartref gofal, y preswylydd cartref gofal a’i deulu.  

Yn anffodus, o dan yr amgylchiadau presennol bydd angen i oedolion hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl dychwelyd i’r cartref gofal. Rwy’n gwybod y bydd hyn yn siomedig.

Byddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin i gefnogi teuluoedd. Bydd y rhain ar gael yn: https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr

Mae cartrefi gofal ym mhob rhan o Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithio’n galed i hwyluso ymweliadau dan do ac i helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u ffrindiau pan nad yw wedi bod yn bosibl i gynnal ymweliadau arferol. Maent yn gwneud cynlluniau i rannu awyrgylch yr ŵyl cymaint â phosibl dros yr wythnosau nesaf.

Mae darparwyr a staff cartrefi gofal wedi gweithio’n eithriadol o galed ac rwy’n cymeradwyo’r ymdrechion hynny a’r ffordd maen nhw wedi arloesi, gan wneud gwahaniaeth enfawr.