Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae helpu gyda thasgau yn y cartref a gofalu am blant iau yn rhan naturiol o fywyd teuluol i blant. Fodd bynnag, mae gan rai plant a phobl ifanc ymrwymiadau llawer mwy nag eraill. Mae pobl ifanc sy'n gofalu am rieni neu frodyr a chwiorydd sy'n sâl neu'n anabl yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn eu caru, wrth gwrs, ac yn aml yn teimlo bod y rôl yn un llawn gwobrwyon. I rai heb gymorth, fodd bynnag, gall y rôl ofalu hon gael effaith niweidiol arnynt.

Gall eu rôl effeithio ar eu haddysg a'u rhyddid i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol er enghraifft. Mae rhai pobl ifanc yn pryderu am iechyd eu hanwyliaid. Heddiw, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth o Ofalwyr Ifanc, rwyf eisiau talu teyrnged i'r bobl ifanc hynny ac egluro ein bod yn datblygu cardiau adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc yng Nghymru. Nod hyn yw codi ymwybyddiaeth cymunedau o'r rôl ofalu y mae llawer o bobl ifanc yn ei chyflawni.

Rwyf wedi cyfarfod â llawer o ofalwyr ifanc dros y blynyddoedd, gan gynnwys ers imi ddod yn Ddirprwy Weinidog. Mae eu hymroddiad bob amser yn gwneud argraff arnaf, yn ogystal â’u gallu i fynegi pa fath o gymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n gwybod bod llawer yn ei chael hi'n anodd egluro eu sefyllfa i bobl eraill dro ar ôl tro. Nid yw oedolion mewn swyddi o awdurdod bob amser yn deall nac yn dangos empathi tuag atynt. Rydym yn gobeithio y gall cardiau adnabod helpu mewn sefyllfaoedd o'r fath, drwy ddangos bod person ifanc yn ofalwr.

Rydym wedi bod yn trafod cardiau adnabod i ofalwyr ifanc gyda sefydliadau gofalwyr ers tro, ac wedi bod yn paratoi ar gyfer eu cyflwyno. Ym mis Mai y llynedd, pleidleisiodd y Senedd o blaid cyflwyno cardiau adnabod i ofalwyr ifanc drwy'r wlad ac i weithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith, gyda chymorth gan y Llywodraeth.

Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith yn dilyn gwaith ymchwil cychwynnol gwerthfawr gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn datblygu cynllun cenedlaethol mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol yn hytrach na gorfodi cynllun arnynt. Mae'n cymryd amser i wneud hyn yn iawn.

Er mwyn ymateb i anghenion lleol, mae awdurdodau lleol yn mynd ati mewn ffyrdd gwahanol i gynllunio a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer gofalwyr ifanc; ar gyfer rhai awdurdodau lleol, mae hyn yn cynnwys rheoli eu cynlluniau Cerdyn Adnabod Gofalwyr eu hunain.  O ganlyniad, mae yna wahaniaethau o ran pa mor barod y mae pob awdurdod lleol i ddarparu Cardiau Adnabod cenedlaethol, ac mae yna angen am ddull gweithredu fesul cam, i sicrhau bod y systemau a'r prosesau gofynnol yn cael eu rhoi ar waith mewn modd cyson.

Bydd y cam cyntaf yn y broses o gyflwyno'r cardiau yn cynnwys nifer o awdurdodau lleol a fydd yn mabwysiadu'r cynllun peilot yn gynnar. Mae gwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru (wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru) i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ymysg pobl broffesiynol megis meddygon teulu a fferyllwyr yn sylfaen gadarn ar gyfer y cynllun. Mae gwaith yr Ymddiriedolaeth o ddatblygu adnoddau ar gyfer ysgolion i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a'u hanghenion ymysg athrawon a staff ysgol eraill hefyd yn rhan annatod o’r cynllun.

Yn ogystal â’r awdurdodau lleol hynny a fydd yn mabwysiadu'r cynllun yn gynnar, byddwn yn defnyddio dull clwstwr, gydag awdurdodau lleol sy’n debyg o ran lleoliad, pa mor drefol ydynt a demograffeg yn cael eu grwpio gyda'i gilydd. Bydd gofyn i aelodau eraill o'r clwstwr weithio gyda'r awdurdodau lleol sydd wedi mabwysiadu’r cynllun yn gynnar yn eu hardal i baratoi i gyflwyno'r cardiau adnabod i weddill y wlad yn y dyfodol. Mae hyn yn rhoi cyfle inni dreialu gwahanol ddulliau mewn gwahanol ardaloedd. Ysgrifennais i holl awdurdodau lleol Cymru cyn y Nadolig ynglŷn â'r dull graddol hwn o gyflwyno'r cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr ifanc. Mae datblygu cynllun cardiau adnabod cenedlaethol yn hanfodol i gyflawni hyn. Un o nifer o ddatblygiadau yw hyn y byddaf yn eu nodi mewn cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr. Byddaf yn ymgynghori ar y cynllun hwnnw yn ystod 2020.