Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi yn fuan gynlluniau i gynyddu capasiti ar gyfer hyd at 6,500 o gymudwyr ychwanegol yr wythnos o'r 15 Rhagfyr eleni, tra'n cyflwyno trenau ychwanegol ledled rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.

Mae hyn yn golygu cynnydd o 10% o ran capasiti defnyddwyr gwasanaethau. Bydd hefyd yn golygu bod dros 200 o wasanaethau ychwanegol ar y SuL i Gymru a'r Gororau sy'n golygu cynnydd o 45% o gymharu â'r gwasanaeth presennol ar y Sul.

Bydd Aelodau'n ymwybodol, yn anffodus, bod oedi sylweddol wedi bod o ran y trenau ychwanegol a archebwyd o dan y cwmni blaenorol (o'r enw Class 769), er gwaethaf y sicrwydd gan eu perchnogion Porterbrook, gan roi straen ychwanegol ar y fflyd a gawsant gan Trafnidiaeth Cymru, sydd eisoes yn brin.

Ymddiheuroedd Porterbrook heddiw am y methiant hwn.

Mae'r broblem yn cael effaith ar y gwasanaethau rheilffyrdd ledled y DU, fodd bynnag, er gwaethaf yr oedi hwn, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio'n galed i sicrhau cerbydau ychwanegol ar ffurf trenau sy'n cael eu tynnu gan loco Class 37 a threnau Class 153 ychwanegol.

Mae Porterbrook hefyd wedi cytuno i roi trenau ychwanegol i Trafnidiaeth Cymru tan i'r trenau a archebwyd yn flaenorol, y Class 769 fod ar gael i'w defnyddio. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi cadarnhau bod fflyd fodern yn cyrraedd yn gynt (o'r enw Class 170), fydd yn darparu rhwng 118 a 181 o seddau yr un. Bydd y rhain nid yn unig yn rhoi capasiti ychwanegol, ond gwell hygyrchedd, pwyntiau gwefru ac aerdymheru. Ar y dechrau, bydd y trenau hyn yn gwasanaethu teithwyr rhwng Cheltenham, Caerdydd a Maesteg, a rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy.

Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gwella y profiad ar y trên ar gyfer teithiau pellter hir gan gyflwyno cerbydau rhyng-ddinesig Marc 4 mwy hygyrch wedi'u hadnewyddu, ar wasanaethau penodol rhwng Gogledd Cymru a Manceinion, a gwasanaeth ychwanegol yn cael eu tynnu gan loco ar y prif lwybr rhwng Caergybi a Chaerdydd yn cysylltu De a Gogledd Cymru.

Bydd y gwelliannau ar gyfer teithwyr rheilffordd ym mis Rhagfyr 2019 yn cynnwys:

  • Rheilffyrdd y Cymoedd yn gweld mwy o drenau pedwar cerbyd ar y gwasanaethau brig, fydd yn rhoi mwy o le sy'n cyfateb â hyd at 6,500 o gymudwyr yr wythnos
  • Bydd teithwyr rhwng Cheltenham a Maesteg, a rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy yn cael y fantais o drenau dosbarth 170 modern gyda mwy o seddau, systemau gwybodaeth i deithwyr ar y trenau, toiledau hygyrch, aerdymheru, Wi-Fi a socedau pŵer.
  • Bydd teithwyr pellter hir ar rai gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Manceinion yn teithio ar gerbydau mwy modern 'Marc 4' rhyng-ddinesig

Er ein bod wedi bod yn gweithio'n galed iawn i liniaru effaith y problemau ehangach o ran y cyflenwad ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru, maent wedi gadael penderfyniadau anodd inni ynghylch sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cydymffurfio ar unwaith â rheoliadau hygyrchedd Person â Symudedd wedi'i Gyfyngu (PRM).

Mae'r dewis i mi fel Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn un anodd. Er mwyn naill ai cydymffurfio â'r rheoliadau PRM o fis Ionawr 2020, sy'n arwain at leihad sylweddol mewn trenau er budd ein teithwyr, neu gymryd y camau angenrheidiol i geisio goddefeb i rai o'n trenau weithredu y tu allan i reolau cydymffurfio â PRM am gyfnod byr iawn.

Mae cyrraedd y dyddiad cau a bennwyd ar gyfer PRM dim ond 15 mis wedi i'r fasnachfraint ddatganoledig ddechrau gweithio yn risg yr oedd nifer ohonom wedi bod yn ymwybodol ohono, ac yn bryderus yn ei gylch. Roedd lliniaru hyn mewn cyfnod mor fyr, pan fo'r farchnad yn cael trafferth i gynnig atebion addas eraill, hefyd yn broblem yr wyf wedi bod yn hynod ymwybodol ohoni. Mae teithwyr yn disgwyl imi sicrhau y gall Trafnidiaeth Cymru redeg gwasanaeth rheilffyrdd ar gyfer Cymru a'r Gororau, ac rwyf wedi gorfod sicrhau bod cydbwysedd rhwng yr angen am hyn â'r angen ar frys i sicrhau bod modd i bob defnyddiwr ddefnyddio'r rheilffordd.

Felly, yn anfoddog, ac fel rhannau eraill y DU, ni chefais opsiwn arall ond i wneud cais am oddefeb i weithredu'r trenau ychydig y tu hwnt i ddyddiad cau Llywodraeth y DU ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd PRM.

Rwyf wedi ei wneud yn orfodol i Trafnidiaeth Cymru wneud popeth o fewn ei bwerau i gyfyngu ar y defnydd o'r unedau hyn nad ydynt yn cydymffurfio â'r PRM, ac i roi'r gorau i'w defnyddio yn raddol yn cynted â phosibl.

Gan bod yr adborth gan deithwyr wedi tynnu sylw at yr angen i wella capasiti a chadernid y fflyd fel eu blaenoriaeth cyntaf, rwyf yn anfoddog wedi cytuno y dylai Trafnidiaeth Cymru barhau i ddefnyddio'r trenau presennol hyd at ddechrau'r flwyddyn newydd, ar yr amod eu bod yn derbyn yr oddefeb angenrheidiol. Byddwn yn rhoi'r gorau yn raddol i ddefnyddio'r Pacers a'r cerbydau Class 37 sy'n cael eu tynnu gan loco wrth i'r cerbydau hygyrch Class 769 ddod ar gael yn y flwyddyn newydd. Bydd hyn yn caniatáu i Trafnidiaeth Cymru gynyddu nifer y trenau pedwar cerbyd sydd ar gael i gymudwyr yn ystod oriau brig.

Cafodd y trenau poblogaidd Class 37 sy'n cael eu tynnu gan loco eu hychwanegu dros dro at y fflyd ym mis Mai 2019 i helpu i wella'r capasiti ar unwaith ar reilffordd brysur Cwm Rhymni - eto mewn ymateb i'r galw gan gwsmeriaid am seddau ychwanegol.

Mae gwaith ymchwil ymhlith cwsmeriaid gan Trafnidiaeth Cymru wedi datgelu bod gallu eistedd neu sefyll yn gyfforddus ar drên yn flaenoriaeth gyntaf i nifer o bobl, ac felly rwy'n disgwyl y bydd teithwyr yn croesawu cynlluniau fydd yn golygu cynnydd o 10% mewn capasiti o fis Rhagfyr.

Rwy'n falch ein bod yn gwella'r profiad cyffredinol i deithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau rhwng Cheltenham a Maesteg, a rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy drwy gyflwyno cerbydau modern mwy hygyrch. Rwyf hefyd yn falch y bydd gwelliant ym mhrofiad teithwyr yng Ngogledd Cymru wrth gyflwyno cerbydau rhyng-ddinesig marc 4 ar rai gwasanaethau pellter hir.

Bydd newid sylweddol hefyd yn cael ei gyflwyno i wasanaethau dydd Sul ym mis Rhagfyr, ac rwyf yn edrych y mlaen at gadarnhau hyn yn fanwl yn yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru gynnal Sesiwn Galw Heibio i Aelodau, ac rwy'n hapus i gadarnhau y bydd Trafnidiaeth Cymru yma ddydd Mercher, 16 Hydref, rhwng 11 y bore a 2 y prynhawn yn Ystafell Giniawa 4 yn Tŷ Hywel. Hoffwn annog Aelodau i fanteisio ar y sesiwn hwn, i drafod Amserlen Rhagfyr yn ogystal ag unrhyw faterion gweithredol sydd gan yr Aelodau.

Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa aelodau o rai o lwyddiannau Trafnidiaeth Cymru yn ystod ei blwyddyn gyntaf.

Drwy ei menter ‘Tocyn Cyntaf’ mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu dros 3000 o docynnau newydd ymlaen llaw gan wneud teithio ar drenau yn rhatach nag erioed ar gyfer unrhyw deithiau dros 50 milltir.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio 215 o wasanaethau newydd yr wythnos ac wedi ail-agor rheilffordd Halton Curve gan gysylltu Wrecsam gyda Lerpwl am y tro cyntaf mewn 40 mlynedd, a darparu cyswllt bob awr rhwng Caer a Lerpwl.  Mae hwn yn hwb economaidd mawr i’r rhanbarth.

Hefyd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno cyfres newydd o dargedau perfformiad a system ble y gall gwsmeriaid hawlio am oedi o 15 munud a mwy drwy ei ‘Gweledigaeth i Wella Gorsafoedd’ ac wedi cyhoeddi buddsoddiad o £194 miliwn i orsafoedd ledled Cymru a’r Gororau.

Yn olaf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu 120 o swyddi ac wedi sefydlu Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol ar draws rhwydwaith gyfan Cymru a’r Gororau i hyrwyddo ac annog y defnydd o drenau mewn cymunedau.

Rwyf wedi egluro o’r dechrau y bydd y daith gyffrous hon o wella rheilffyrdd yn cymryd amser, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig i gydnabod y datblygiadau y mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i’w gwneud er gwaethaf yr heriau parhaus.