Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Disgrifiodd yr Adolygiad Seneddol y galwadau cynyddol a'r heriau newydd sy'n wynebu'r GIG a gofal cymdeithasol – mwy o anghenion gofal wrth inni heneiddio, newidiadau i ffyrdd o fyw, disgwyliadau'r cyhoedd a thechnolegau meddygol newydd. Mae'r heriau hyn wedi'u teimlo'n arbennig gan wasanaethau gofal critigol yn y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi dwysáu ar adegau, er enghraifft yn ystod y gaeaf.
Rydym wedi cyfarfod â nifer o ymgynghorwyr gofal critigol ac wedi gwrando ar eu barn. Mae'n amlwg bod straen sylweddol ar y gwasanaethau gofal critigol a'i fod wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae'r rheini sy'n ddifrifol wael ac angen cymorth yn parhau i gael gofal critigol o'r safon uchaf diolch i ymroddiad staff sydd wedi bod yn gweithio dan bwysau mawr.
Fel sy'n cael ei amlinellu yn y cynllun iechyd a gofal cymdeithasol – Cymru Iachach, mae gwasanaethau mewn ysbytai megis gofal critigol yn parhau'n rhan hanfodol a gweledol o'n system iechyd a gofal yn y dyfodol. Fel sy'n wir am wasanaethau eraill, mae angen i ni wneud y newidiadau'n gynt i ofal critigol ac edrych ar y model o ddarpariaeth ledled Cymru i sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir yn y man cywir ar gyfer y rheini sy'n ddifrifol wael.
Bydd y ffordd y byddwn yn mynd i'r afael â gofal critigol yn datblygu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud drwy weithredu'r Cynllun Cyflawni i'r difrifol wael, ond nawr rydym am fynd ati â gafael ganolog fwy cadarn o ran cyfarwyddo'r gwaith hwn ar lefel genedlaethol. Felly, bydd rhai gwasanaethau'n cael eu datblygu yn seiliedig ar fodel cenedlaethol gyda’r bwriad o sicrhau bod gweithlu medrus priodol yn ei le ledled Cymru.
Bydd hyn yn cynnwys mynd ati fesul cam i ailwampio'r ffordd y caiff gwasanaethau i bobl sy'n ddifrifol wael eu darparu yng Nghymru. Fe wnaethom nodi'r angen i gefnogi gwasanaethau sydd eisoes ar waith yng Nghymru i sicrhau ein bod yn defnyddio'r capasiti sydd gennym ar hyn o bryd mor effeithiol â phosibl, yn datblygu ac yn ehangu'r gweithlu medrus ac yn sicrhau ein bod yn targedu'r buddsoddiad mewn capasiti gofal critigol ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau arbenigol. Rydym yn bwriadu sicrhau bod system effeithiol ar waith i drosglwyddo cleifion i ofal mwy arbenigol pan mae ei angen arnynt, a’u dychwelyd i'r lleoliad lleol mwyaf priodol i barhau â'u gofal.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi cyllid rheolaidd o £15 miliwn i gefnogi'r rhaglen waith hon. Rwyf wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a chyfarwyddwyr cyllid a chynllunio pob Bwrdd Iechyd Lleol. Bydd y Grŵp yn goruchwylio'r gwaith o ddyrannu'r cyllid gyda chefnogaeth nifer o ffrydiau gwaith i ddatblygu ein model gofal cenedlaethol ar gyfer y rheini sy'n ddifrifol wael.
Bydd y model cenedlaethol yn cynnwys ehangu timau allgymorth, unedau gofal ôl anesthesia, sefydlu uned cymorth anadlu hirdymor, mesurau perfformiad mwy tryloyw, opsiynau ar gyfer trosglwyddo cleifion sy'n ddifrifol wael yn ogystal â datblygu/ehangu'r gweithlu medrus a chynyddu nifer y gwelyau gofal critigol. Ochr yn ochr â'r model cenedlaethol, byddwn yn gweithio gyda'r gwasanaeth i weithredu mesurau perfformiad priodol a fydd yn ein galluogi i olrhain effaith y buddsoddiad hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r holl feysydd hyn os ydym am sicrhau gwasanaethau gofal critigol cynaliadwy i'r dyfodol. Dyma raglen waith 3 i 5 mlynedd, ond rwy’n disgwyl gweld cynnydd dros y misoedd nesaf cyn y gaeaf.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn yr hydref lle byddaf yn rhoi rhagor o fanylion ac yn amlinellu'r cynnydd fydd wedi'i wneud.