Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst cyhoeddais Gronfa Buddsoddi Cyfalaf i ddatblygu Canolfannau a Gofodau Dysgu Cymraeg er mwyn hybu’r defnydd o, a throchi yn, y Gymraeg.
Nod y Gronfa yw helpu i wireddu ein polisi, Bwrw Mlaen , gan roi cyfle i awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion weithio gyda phartneriaid yn y gymuned i ddatblygu canolfannau deinamig lle bydd pobl yn gallu dysgu neu ymarfer eu Cymraeg.
Rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd y prosiectau canlynol yn cael cymorth yn ystod cylch ariannol 2014-15:
- Cyngor Ynys Môn (£138,723) i ddatblygu canolfannau’r sir ar gyfer trochi hwyrddyfodiaid yn y Gymraeg
- Prifysgol y Drindod Dewi Sant (£300,000) i brynu adeilad yng nghanol tref Caerfyrddin, a’i droi’n ganolfan iaith amlbwrpas
- Cyngor Sir Gaerfyrddin (£70,000) i weithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu canolfan iaith amlbwrpas yn Llanelli
- Coleg Cambria (£300,000) i ddatblygu canolfan ar gyfer dysgu sgiliau Cymraeg sy’n berthnasol i’r gweithle, a hynny yng nghanol tref Wrecsam, er mwyn darparu cyfleoedd dysgu a rhwydweithio Cymraeg i fusnesau.
Mae annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ac yn eu cymunedau lleol yn rhan ganolog o’n hymrwymiadau yn ein datganiad polisi, Bwrw Mlaen. Bydd y prosiectau dwi’n eu cyhoeddi heddiw yn creu canolfannau dysgu deinamig yn ein trefi a’n cymunedau, sef canolfannau a fydd yn ganolbwynt ymarferol ar gyfer hybu’r iaith ymhlith pobl o bob oed.
Bydd y canolfannau yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Byddant yn cynnig cyfle i bobl ym arfer eu Cymraeg a meithrin eu hyder.
Mae Cronfa Gyfalaf pellach o £1m nawr ar agor, a hoffwn annog awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i anfon eu ceisiadau ar gyfer y cylch ariannu nesaf hwn.