Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod tymor y gaeaf  2022-23 darparodd Llywodraeth Cymru £1m i gefnogi ac ehangu'r ddarpariaeth o fannau diogel a chynnes yn y gymuned leol. Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth mewn ffyrdd amrywiol: fel Canolfannau Clyd, Canolfannau Croeso Cynnes, Mannau Cynnes a Chroeso Cynnes / Cosy Corners. 

Rwy'n falch o gyhoeddi y byddaf yn sicrhau bod £1.5m arall ar gael eleni i barhau i gefnogi darparu mannau yn y gymuned leol lle gall pobl o bob oed fynd iddynt i gael mynediad at wasanaethau a chyngor, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol neu gael paned gynnes a chwmni. 

Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn y mannau cymunedol hyn wedi bod yn hanfodol i helpu pobl i gael mynediad at gyngor lles i  ddelio â dyledion a sicrhau eu bod yn gwybod am eu hawliau, i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd neu i roi cynnig ar weithgareddau newydd neu ddysgu sgiliau newydd.

Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o becyn cymorth ehangach Llywodraeth Cymru i bobl ledled Cymru dros y misoedd nesaf gan gynnwys ein Cronfa Cymorth Dewisol, Gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl, a'r Cynllun Talebau Tanwydd.

Rydym yn bwriadu i'r cyllid hwn, a ddyrennir drwy'r awdurdodau lleol, ychwanegu at y ddarpariaeth sydd eisoes ar gael ledled Cymru drwy'r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a ffydd, gan alluogi sefydliadau i agor eu cyfleusterau am gyfnod hirach, eu hagor yn amlach neu  ddarparu pryd o fwyd a lluniaeth i'r rhai sy'n defnyddio'r cyfleusterau.

Bydd y ffocws yn parhau i fod ar nodi a diwallu anghenion lleol. Mae hyn yn golygu y bydd nifer o ddulliau gwahanol o ddarparu'r mannau hyn yn seiliedig ar anghenion cymunedau. Ond bydd yn bwysig eu bod i gyd yn cynnig man croesawgar sy'n agored ac yn gynhwysol ac ar gael i bawb yn y gymuned ei ddefnyddio.