Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Mae’n bleser gen i gyhoeddi fy mod, ar ôl ystyriaeth ofalus, wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol (CGACh) yn Llanfrechfa Grange a rhyddhau cyllid cyfalaf rhwng 2016/17 a 2021/22 er mwyn adeiladu’r ysbyty.
Er bod costau terfynol y tendr eto i’w cytuno, mae’r CGACh yn fuddsoddiad gwerth £350m i greu ysbyty modern wedi’i gynllunio’n bwrpasol a fydd yn gallu darparu canlyniadau o ansawdd uchel ar gyfer cleifion.
Mae’r CGACh yn rhan allweddol o brosiect uchelgeisiol Dyfodol Clinigol a lansiwyd yn 2004, er mwyn moderneiddio gwasanaethau iechyd yng Ngwent a bydd yn creu awyrgylch arbenigol iawn i helpu trin cleifion sydd angen gofal brys cymhleth ac aciwt yn y rhanbarth.
Yn ôl y disgwyl cafwyd llawer o ddiddordeb yn y prosiect hwn gan y cyhoedd a gwleidyddion. Gweithiodd fy swyddogion yn agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wrth i’r achos busnes llawn gael ei ddatblygu. O gofio am werth sylweddol y buddsoddiad a’i gymhlethdod, roedd angen craffu’n fanwl ar yr achos busnes er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r meini prawf allweddol ar gyfer buddsoddi, sef cynnydd mewn iechyd, cydraddoldeb, cynaliadwyedd clinigol a sgiliau, gwerth am arian a fforddiadwyedd refeniw.
Argymhellodd adroddiad terfynol Rhaglen De Cymru, a gyhoeddwyd ym Mawrth 2014, fodel oedd yn cynnig pum prif ysbyty aciwt, gan gynnwys yr CGACh fel un o’r pum safle. Bydd uno rhai gwasanaethau cymhleth a mwy aciwt ar un safle ysbyty yn galluogi’r bwrdd iechyd lleol i sicrhau nifer o fanteision gan gynnwys:
- Gwelliannau yn ansawdd y gofal ar gyfer cleifion yn unol â safonau cenedlaethol, tystiolaeth ac arfer gorau;
- Cefnogi’r ystod eang o wasanaethau lleol sy’n cael eu darparu gan yr Ysbytai Cyffredinol Lleol.
- Mynediad cyflymach i ofal ar gyfer cleifion drwy leihau tagfeydd mewn systemau ysbytai a gwella cysylltiadau gyda gwasanaethau trydyddol;
- Y gwasanaethau aciwt mwy arbenigol hyn yn dod yn fwy cynaliadwy a chadarn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, drwy ddatblygu timau integredig sengl a diwrnodau gwaith estynedig;
- Gwella recriwtio a chadw yn y meysydd arbenigol hyn a chefnogi hyfforddiant a datblygiad staff, gan gynnwys hyfforddi doctoriaid y dyfodol.
- Amgylchedd modern sydd mor effeithlon ac effeithiol â phosibl ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr.
Mae yna gefnogaeth gref i’r CGACh yng nghymuned Gwent, ymhlith Byrddau Iechyd Lleol eraill yn ardal Rhaglen De Cymru, gan y pum cyngor bwrdeistref yng Ngwent, y Cyngor Iechyd Cymuned lleol ac ystod o grwpiau gwirfoddol a chymunedol.
Mae cyhoeddiad heddiw yn gefnogaeth bwysig i’r model integredig oedd yn cael ei ragweld gan Dyfodol Clinigol, ac mae’n golygu y gall y bwrdd iechyd fwrw iddi i adeiladu’r ysbyty newydd.
Bydd dyfodiad yr CGACh yn arwain at newidiadau pellach yn yr ysbytai aciwt eraill sy’n cael eu rhedeg gan BIPAB; ysbytai Brenhinol Gwent, Nevill Hall a St.Woolos. Er y byddant yn parhau i ddarparu ystod eang o wasanaethau aciwt y gellir eu cynnig yn ddiogel ac yn gynaliadwy yn lleol bydd angen i achosion busnes y dyfodol ar gyfer Ysbytai Brenhinol Gwent a Nevill Hall ddangos sut y byddai’r system yn gallu sicrhau buddion y model aml-haenog hwn yn glinigol, ar gyfer y gweithlu, ac o ran effeithlonrwydd. Bydd yr CGACh yn dwyn ynghyd y gwasanaethau mwy arbenigol ar gyfer poblogaeth Gwent. Byddaf yn disgwyl i’r bwrdd iechyd lleol ddangos y bydd yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle sy’n cael ei ddarparu gan yr CGACh i drawsnewid gwasanaethau yn ei ardal.
Bydd gan yr CGACh rôl ranbarthol allweddol hefyd fel rhan o system ehangach ysbytai aciwt mawr yn Ne Cymru. Nododd Rhaglen De Cymru gyfeiriad strategol wedi’i gytuno ar gyfer y dyfodol, gyda’r CGACh yn elfen allweddol sy’n gweithio gydag ysbytai aciwt mawr eraill er mwyn sicrhau gwasanaethau cynaliadwy, o ansawdd uchel sy’n darparu’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Bydd gan yr ysbytai aciwt eraill yn BIPAB a hefyd mewn BILl eraill rôl bwysig i’w chwarae i gefnogi’r cyfeiriad strategol hwn. Rhaid i ni beidio â llaesu dwylo wrth fynd ati i wella gofal, a rwy’n benderfynol ein bod yn cynllunio ac yn datblygu gwasanaethau ar lefel rhanbarthol yn ogystal â lleol er budd poblogaeth De Cymru yn ei chyfanrwydd.
Rwy’n disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fynd ati yn awr i adeiladu a chomisiynu’r ysbyty newydd y mae disgwyl iddi agor yn 2022. Rwyf hefyd yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol ledled De Cymru i gyflymu eu cynllunio rhanbarthol er mwyn sicrhau fod holl fanteision y penderfyniad hwn i gefnogi’r CGACh yn cael eu gwireddu.
Mae'r Llywydd wedi cytuno i ddiwygio agenda’r cyfarfod llawn yfory i'm galluogi i wneud datganiad llafar ar hyn.