Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Mae gan Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru nod ar y cyd i sicrhau bod gan y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai ddyfodol cynaliadwy hirdymor.
Yn 2017, yn dilyn adolygiad annibynnol, roedd argymhelliad i ystyried opsiynau ar gyfer rheoli Canolfan Plas Menai gan ei chadw o fewn perchnogaeth gyhoeddus yn unol â nodau strategol Chwaraeon Cymru. Penderfynodd Chwaraeon Cymru wedi hynny mai'r ffordd orau o gyflawni hyn oedd drwy nodi partner strategol, sy'n rhannu ei werthoedd a'i ddyheadau ar gyfer Plas Menai a rhannu hefyd y risg ariannol o weithredu'r ganolfan.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi cynnal proses gaffael drylwyr i ddod o hyd i’r partner strategol hwnnw ac mae’n cyhoeddi heddiw bod Parkwood Leisure wedi'i benodi. Mae Parkwood Leisure yn dod â gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector awyr agored a hamdden ynghyd â chynigion arloesol ar gyfer darparu gwasanaeth.
Bydd y dull hwn yn dod â phrofiad ac arbenigedd o'r sector i dyfu'r busnes fel cyrchfan chwaraeon gydol y flwyddyn, a fydd yn galluogi twf a datblygiad hirdymor Plas Menai. Bydd y bartneriaeth yn diogelu telerau ac amodau cyflogaeth holl staff y ganolfan a bydd Plas Menai yn cadw ei statws fel y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol, gan weithredu ar sail nid-er-elw.
Drwy gydol y broses, rwyf wedi derbyn diweddariadau gan Chwaraeon Cymru am y camau y mae wedi eu cymryd. Rwy'n dawel fy meddwl bod proses gadarn wedi'i dilyn a bod Chwaraeon Cymru a'i bartner strategol newydd wedi cytuno ar baramedrau pendant mewn perthynas â’r ffordd y caiff y ganolfan ei rheoli yn y dyfodol, a hynny er lles ei staff, trigolion lleol ac ymwelwyr.