Lesley Griffiths AC – Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ym mis Awst 2018, cyhoeddais fy mod yn bwriadu cyfeirio'r Is-ddeddfau Gwialen a Lein Cymru (Eogiaid a Sewin) 2017 ac Is-ddeddfau Pysgota Rhwyd Cymru (Eogiaid a Sewin) 2017 yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cynnig at Arolygiaeth Gynllunio
Cymru, er mwyn iddynt gynnal Ymchwiliad Lleol. Roedd hyn i ganiatáu craffu annibynnol ar yr Is-ddeddfau arfaethedig, ac i unrhyw dystiolaeth o blaid neu yn erbyn yr Is-ddeddfau gael ei chyflwyno gan unrhyw bartïon sydd â diddordeb, ac er mwyn imi benderfynu ar y camau nesaf.

Cyflwynodd yr Arolygiaeth Gynllunio eu hadroddiad terfynol imi ar 3 Mehefin. Hoffwn ddiolch iddynt am eu diwydrwydd wrth gynnal ymchwiliad agored, diduedd a theg ac am roi eu hargymhellion imi. Mae Adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Mae’r adroddiad yn dangos yn glir fod teimladau cryf ac angerdd ar ddwy ochr y ddadl a hefyd fod tir cyffredin rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a gwrthwynebwyr o ran y ffaith bod stociau eogiaid a sewin yn dirywio flwyddyn ar ôl flwyddyn.  Felly, at ei gilydd, cytunir ar y ffaith bod problem.  Derbynnir hefyd na ddylem adael i stociau ostwng i lefelau peryglus, ac y dylai lefelau gael eu codi fel mater o frys. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod llawer o enweirwyr yn dal ac yn rhyddhau pysgod yn wirfoddol, ac felly, ni fydd yr Is-ddeddfau'n cael effaith arnyn nhw.

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a dadleuon a gynigiwyd, mae'r Arolygydd Cynllunio wedi dod i’r casgliad bod yr Is-ddeddfau arfaethedig yn ymateb cymesur i stociau pysgod sy'n dirywio yng Nghymru. Yn hyn o beth, roedd o'r farn eu bod yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn rhesymol o ystyried y dirywiad mewn stociau eogiaid a sewin ledled Cymru.  Ei argymhelliad oedd y dylid cadarnhau'r Is-ddeddfau.

Ar ôl ystyried yr adroddiad, asesiadau o stoc a gafodd eu cyhoeddi'n ddiweddar a thrafodaethau â llawer o randdeiliaid, rwyf wedi penderfynu cadarnhau'r Is-ddeddfau, a bydd y rhain yn dod i rym ar 1 Ionawr 2020.

Yn ogystal, credaf fod gwersi i'w dysgu o'r ymchwiliad hwn.

Rwy'n cydnabod mai un ffordd yn unig o atal y dirywiad mewn stociau eogiaid a sewin yw ymyriadau genweirio.  Mae materion eraill y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac roedd rhanddeiliaid yn gywir wrth dynnu sylw atynt.  Mae effeithiau llygredd amaethyddol yn cael effaith arwyddocaol ar fywydau’r stociau hyn  Rwy'n bwriadu cyflwyno rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ym mis Ionawr 2020.

Problemau eraill y tynnwyd sylw atynt yn ystod yr Ymchwiliad Lleol oedd mudo, tynnu dŵr, camau gorfodi cadarn ac ysglyfaethu pysgysol. Mae gan bawb ran i'w chwarae.  Nid ydym yn trafod y materion hyn o'r dechrau un.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y gwnaethant ddweud yn eu tystiolaeth i'r Ymchwiliad Lleol, yn gwneud cryn waith mewn perthynas ag amddiffyn stociau dan fygythiad, gan gynnwys eogiaid a sewin.  Er eu bod yn adrodd ar y gweithgareddau hyn i gyrff rhyngwladol megis NASCO, dylai'r holl wybodaeth fod yn yr un lle a chael ei chyflwyno mewn modd sy'n berthnasol ac yn benodol i enweirwyr Cymru.

Felly, byddaf yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru arwain y gwaith gyda rhanddeiliaid er mwyn cyfuno'r holl waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan yr holl bartïon perthnasol mewn Cynllun Gweithredu ar gyfer Eogiaid a Sewin.  Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gwaith hwn ac rwy'n gobeithio y bydd genweirwyr a chefnogwyr genweirwyr yn gwneud yr un peth. Rwy'n disgwyl y bydd y Cynllun Gweithredu yn barod cyn i'r Is-ddeddfau ddod i rym ar 1 Ionawr 2020 ag i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud pob ymdrech i rannu'r cynllun â rhanddeiliaid a phartïon eraill sydd â diddordeb. Dylai'r cynllun gael ei ddiweddaru bob blwyddyn mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid gan gynnwys camau gweithredu ac amserlenni clir.

Rhaid inni weithio gyda'n gilydd i warchod y pysgod gwych hyn tra bo’r cyfle gennym.