Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Yn dilyn pryderon eang ynghylch canlyniadau TGAU Saesneg Iaith yn haf 2012, aeth Llywodraeth Cymru ati ar unwaith i gynnal ymchwiliad a gofyn bod y cymhwyster CBAC yn cael ei ail-raddio. Cafodd 2,400 o ddysgwyr yng Nghymru raddau diwygiedig o ganlyniad i'r broses ail-raddio.
Canfu’r ymchwiliad hefyd fod problemau mawr gyda’r fanyleb ar gyfer TGAU Saesneg Iaith. Datblygodd Llywodraeth Cymru feini prawf pwnc diwygiedig ar gyfer y cymhwyster hwn yng Nghymru a bu swyddogion yn cydweithio â CBAC i sicrhau bod manyleb ddiwygiedig a deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael i ysgolion cyn gynted â phosibl.
Caiff manyleb ddiwygiedig TGAU Saesneg Iaith ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, a gyflwynwyd yn hydref 2012, ei chynnig gan CBAC yn unig.
Ionawr 2014 oedd y cyfle asesu cyntaf ar gyfer y fanyleb hon. Ceir pedair uned yn y cymhwyster, ac roedd dwy ar gael ym mis Ionawr. Bydd pob un o’r pedair uned ar gael yng nghyfres arholiadau haf 2014 a dyma fydd y cyfle cyntaf i ddysgwyr gyfnewid eu canlyniadau yn yr unedau hyn am radd TGAU.
Mae'r trafferthion sydd wedi codi gyda chanlyniadau TGAU Saesneg Iaith CBAC mis Ionawr 2014 yn ymwneud â’r unedau. Mae canlyniadau'r unedau yn is na'r canlyniadau ar gyfer y fanyleb flaenorol yn Ionawr 2013, ond nid ydynt yn hawdd eu cymharu gan fod strwythur y cymhwyster wedi newid.
Mae Llywodraeth wedi mabwysiadu’r egwyddor "canlyniadau cymaradwy" wrth reoleiddio TGAU, UG a Safon Uwch. Oni bai bod sefydliadau dyfarnu'n cynnig rhesymeg cryf dros newid, rydym yn disgwyl i ganlyniadau yn y pynciau mawr fel TGAU Saesneg Iaith fod yn sefydlog o un flwyddyn i'r llall. Mae'r egwyddor hon yn berthnasol waeth a yw’r fanyleb wedi newid ai peidio, heblaw ein bod wedi nodi materion penodol sy'n gofyn am addasu’r safonau. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i addasu safonau TGAU Saesneg Iaith.
Gallai sawl ffactor fod wedi cyfrannu at y dirywiad yn y canlyniadau rhwng Ionawr 2013 a Ionawr 2014. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n ymchwilio i’r rhain ar frys.
Mae yna dueddiad i gofrestru'n gynnar ar gyfer cymwysterau TGAU, ac mae asesiadau mis Ionawr yn 'gynnar' i ddysgwyr ym Mlwyddyn 10 ac 11. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd - mae ysgolion wedi cofrestru eu dysgwyr mwyaf abl yn gynnar yn y gorffennol. Yr hyn sydd wedi newid yw nifer y dysgwyr sy'n cael eu cofrestru'n gynnar - cohortau cyfan mewn rhai ysgolion. Roedd y tueddiad hwn yn glir yn achos TGAU Saesneg Iaith ym mis Ionawr 2014, lle’r oedd nifer y cofrestriadau wedi cynyddu o 30,000 ym mis Ionawr 2013 i 37,000 ym mis Ionawr 2014. Rwyf wedi codi pryderon o'r blaen ynghylch y tueddiad i gofrestru'n gynnar, ac rwy'n pryderu bod yr arfer hon yn cynyddu.
Rwyf hefyd wedi gofyn am ymarfer casglu gwybodaeth cyflym i:
- asesu canlyniadau TGAU Saesneg Iaith 2014 er mwyn pennu beth yw'r prif faterion sydd wrth wraidd y canlyniadau
- nodi canolfannau lle'r oedd y canlyniadau yn wahanol iawn i'r canlyniadau a ddisgwyliwyd
- nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i helpu ymarferwyr wrth iddynt gofrestru yn y dyfodol.
Cynhelir yr ymarfer hon dros yr wythnosau nesaf; caiff y canlyniadau cychwynnol eu hadolygu erbyn diwedd mis Mawrth a phenderfynir ar gamau pellach wedi hynny.
Ein rhaglen ddiwygio, sy'n seiliedig ar argymhellion yr Adolygiad annibynnol o Gymwysterau a arweiniwyd gan Huw Evans OBE, yw'r pecyn cywir o ddiwygiadau i Gymru. Hoffwn ddatgan yn glir ein bod yn ymrwymedig i'n rhaglen ddiwygio er mwyn cynyddu trylwyredd yn y system gymwysterau yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod ein rhaglen ddiwygio'n iawn gan fod cyflogwyr wedi'i chroesawu ac mae wedi cael cefnogaeth draws-bleidiol.
Mae newid wastad yn anodd, ond y dysgwyr yw ein blaenoriaeth o hyd, a byddwn yn sicrhau nad yw unrhyw ddiwygiadau'n cael effaith negyddol arnynt.