Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Gyda Glastir bellach wedi ennill ei blwyf – mae rhyw 2,000 o geisiadau newydd i ymuno â Glastir Sylfaenol wedi cyrraedd eleni – mae’n bryd pwyso a mesur Tir Cynnal a Tir Gofal, y ddau gynllun amaeth-amgylcheddol sy’n dod i ben. Mae’r rhan fwyaf o’r contractau’n gorffen eleni a hoffwn ddiolch i’r holl reolwyr tir gymerodd ran yn y cynlluniau am eu hymrwymiad i ddarparu buddiannau cyhoeddus trwy geisio rhedeg eu busnesau’n fwy cynaliadwy.
Mae’n bwysig bod ffermwyr a’r cyhoedd yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod y camau adeiladol y mae’r diwydiant a ffermwyr unigol wedi’u cymryd er lles yr amgylchedd – boed hynny trwy wella ansawdd cynefinoedd, cynyddu bioamrywiaeth, diogelu ein tirweddau naturiol a’n nodweddion hanesyddol, rheoli adnoddau’n well neu leihau llygredd dŵr – hynny lawn cymaint â’u rôl fel cynhyrchwyr bwyd iach a diogel.
Rwyf newydd gyhoeddi adroddiadau monitro a gwerthuso terfynol ar y cynlluniau Tir Cynnal a Tir Gofal ynghyd â chrynodeb o’r canfyddiadau. Cliciwch ar y dolenni isod i’w ar-lein.
Mae’r adroddiadau’n dangos bod y cynllun lefel mynediad, Tir Cynnal, er gydag amcanion llai uchelgeisiol, wedi llwyddo i wneud y rhan fwyaf o’r hyn yr oedd yn gobeithio ei wneud o ran cynnal ansawdd a nifer y cynefinoedd oedd eisoes yn bod ar dir ffermio. Ar y llaw arall, o ystyried y swm sylweddol o arian cyhoeddus a fuddsoddwyd ynddo, siomedig yw’r unig gasgliad y gall dyn ddod iddo am Tir Gofal, y cynllun lefel uwch.
Rwy’n siŵr bod y rhan fwyaf o’r ffermwyr gymerodd ran yn Tir Gofal wedi gweld gwahaniaeth positif yn yr amgylchedd a byd natur ar eu ffermydd, ond o edrych ar effeithiau’r cynllun yn ei gyfanrwydd, gwelir na chafodd fawr o effaith ar gynyddu niferoedd rhywogaethau â blaenoriaeth, sef un o’i brif amcanion o’r cychwyn. Adlewyrchir y methiant hwnnw gwaetha’r modd yn yr argyfwng cenedlaethol sy’n parhau i wynebu bioamrywiaeth ac a ddarluniwyd mor glir yn yr adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur. Ar nodyn mwy gobeithiol, fe esgorodd y cynlluniau ar rai canlyniadau amgylcheddol ychwanegol mwy buddiol, gan gynnwys lleihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, er nad oeddynt ymhlith amcanion gwreiddiol. Bydd y buddiannau hynny’n parhau trwy fesurau tebyg ac ychwanegol yn Glastir ond mae’n bwysig ein bod yn anelu lawer yn uwch os ydym am sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.
Ers cyflwyno Glastir, rydym yn dal i ddysgu gwersi ynghylch sut i gynnal ein cynlluniau a chael y gorau i’r amgylchedd yng Nghymru. Mae’r adroddiadau wedi dysgu i ni mai’r ffordd orau o sicrhau’r canlyniadau a ddymunir yw trwy dargedu lleoliad y mesurau yn fwy effeithiol, gan roi’r pwyslais ar wella ansawdd y mesurau ar lefel y dirwedd. Er enghraifft, bydd plannu stribyn digon trwchus o goed o fewn dalgylch afon sy’n anfoddhaol oherwydd ansawdd y dŵr a’r llifogydd sy’n digwydd ymhellach i lawr y dyffryn, yn esgor ar lawer mwy o fanteision na phe bawn yn plannu coed unigol hwnt ac yma yn y dirwedd. Ceir yn Glastir Uwch eisoes ffocws lawer tynnach ar weithgareddau na Tir Gofal felly rydym yn obeithiol y bydd y cynllun yn gallu darparu canlyniadau amgylcheddol pwysig.
Wedi dweud hynny, mae’n hanfodol ein bod yn cynnal Glastir mewn ffordd ddigon hyblyg i allu ymateb i’r problemau amgylcheddol rydym yn eu hwynebu ac i dystiolaeth newydd fel casgliadau’r adroddiad ar y ddau gynllun. Yn y misoedd nesaf, byddwn yn cynnig argymhellion ar gyfer cyfeiriad Glastir o dan y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf. Bydd yr argymhellion hynny’n cynnwys syniadau ar gyfer cynnal cynllun mwy integredig – un sy’n gweithio er lles yr amgylchedd ond sydd hefyd yn cynnig cyfleoedd i sbarduno’r economi ac sy’n taclo problemau eraill fel cadernid yr ucheldiroedd a lles planhigion ac anifeiliaid. Bydd cyfle i’r rheini sydd â diddordeb yn y cynllun fynegi eu sylwadau a’u syniadau.
Rwy’n croesawu’r adroddiadau gwerthuso er gwaetha’r casgliadau cymysg. Maen nhw’n rhoi cyfeiriad pwysig i ni ac yn cadarnhau bod Glastir yn gam doeth. Ni allent fod wedi cael eu cyhoeddi ar amser gwell i lywio’n syniadau ar gyfer Glastir yn y dyfodol.