Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leo

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, dyma roi gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar 24 Mai 2022.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Tai a Llywodraeth Leol, Shona Robison ASA a'r Gweinidog dros Nawdd Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Ben Macpherson ASA, yn bresennol ar ran Llywodraeth yr Alban. Roedd y Gweinidog Cymunedau, Deirdre Hargey ACD a'r Gweinidog Cyllid, Conor Murphy ACD, yn cynrychioli Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Y Gwir Anrhydeddus Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro a'r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol a gadeiriodd y cyfarfod rhithwir – yng nghwmni’r Gweinidog dros Ffyniant Bro, y Cyfansoddiad a'r Undeb, Neil O'Brien AS; a'r Gweinidog dros Ddiogelwch Adeiladau a Thân, yr Arglwydd Greenhalgh.

Trafododd y grŵp eu ffyrdd o weithio yn y dyfodol, ar sail y canlyniadau y cytunwyd arnynt yn sgil yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Penderfynodd y grŵp gyfarfod bob chwarter, a chytunais y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnal y cyfarfod nesaf.

Roedd y grŵp yn cydnabod bod Diogelwch Adeiladau yn fater a rennir sy'n effeithio ar bob Llywodraeth, a bod gennym nod ar y cyd i ddwyn y diwydiant i gyfrif ac amddiffyn preswylwyr. O ystyried y tebygrwydd cyffredinol ar draws ein systemau, pwysleisiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd bod angen cydweithio’n well ar y materion a gadwyd yn ôl ar gyfer diogelwch adeiladau, gan gynnwys yswiriant a benthyca. Tynnodd sylw at bryderon a nodwyd o'r blaen ynghylch yr angen i Lywodraeth Cymru gael ei chynnwys mewn trafodaethau a gynhelir rhwng Llywodraeth y DU a datblygwyr eiddo sy’n ymwneud â chael eu cytundeb i ariannu ac atgyweirio pob adeilad dros 11 metr y maent wedi chwarae rhan yn y gwaith o'u datblygu.

Cytunwyd bod angen i'r llywodraethau weithio gyda'i gilydd i gryfhau’r ymrwymiad i ddiogelu adeiladau, rhannu gwybodaeth a chydgysylltu’r gwaith. Cynigiwyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei rannu'n feysydd gwaith, a fyddai’n cynnwys addunedau datblygwyr, yr ardoll a sefydliadau ariannol.