Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ynghylch canllawiau diwygiedig ar asesu risg llwybrau a gerddir i’r ysgol.

Penderfynwyd cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ôl i Gomisiynydd Plant Cymru dynnu sylw at gyfyngiadau’r canllawiau cyfredol ac at yr angen i blant a phobl ifanc allu cyfrannu at asesu risg llwybrau a gerddir i’r ysgol.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 18 Tachwedd 2013 a 7 Chwefror 2014. Gofynnwyd cwestiynau am y canlynol:
  • Cryfderau a gwendidau’r drefn asesu risg gyfredol
  • Y risgiau ychwanegol y dylid eu hystyried wrth asesu diogelwch llwybrau a gerddir
  • Sut gellir cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses asesu risg
Daeth 59 ymateb ysgrifenedig i law, ac fe gasglwyd sylwadau gan 542 o blant ysgol gynradd a 136 o ddisgyblion uwchradd hefyd drwy fynd atynt yn uniongyrchol i geisio eu barn.

Roedd adborth y plant a’r bobl ifanc yn dangos eu bod yn bryderus ynghylch materion diogelwch y ffyrdd a thraffig yn ogystal â pheryglon ehangach yn y gymdeithas, yn enwedig ‘perygl dieithriaid’.

Rwy’n cydnabod y pryderon a fynegwyd gan yr awdurdodau lleol am effeithiau posibl y canllawiau newydd hyn a’r goblygiadau posibl o ran adnoddau, ond rwy’n bendant bod rhaid inni roi blaenoriaeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel - ac yn teimlo’n ddiogel - wrth gerdded i’r ysgol. Byddaf yn sicrhau bod modd, wrth fonitro’r canllawiau newydd hyn, nodi unrhyw effeithiau sylweddol ar awdurdodau lleol.

Byddaf yn mynd ati yn awr i weithio gyda’r Comisiynydd Plant i gwblhau’r canllawiau hyn a datblygu cynlluniau i fonitro pa mor effeithiol ydynt. Bwriedir cynnwys y canllawiau terfynol hyn yn y Canllawiau Gweithredol ar gyfer Teithio gan Ddysgwyr a gyhoeddir ar ôl y Pasg.

Ar fater ehangach, rwy’n ymwybodol bod ysgolion ar draws Cymru’n dioddef gan ffyrdd mynediad gwael a allai fod yn beryglus. Nid yw hyn yn dderbyniol ac rwy’n cymryd camau i fynd i’r afael â’r materion hyn yn awr. Yn y lle cyntaf, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnal adolygiad o ddiogelwch y ffyrdd i ysgolion ar y rhwydwaith cefnffyrdd a byddaf yn blaenoriaethu’r cyllid i ddatrys y materion diogelwch a nodir. Ar yr un pryd, bydd y grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau’n parhau i ddarparu cyllid i awdurdodau lleol wneud gwelliannau diogelwch; sefydlwyd y grant hwn yn benodol ar gyfer gwella ‘r fyrdd mynediad i ysgolion yn 2014/15.