Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar weithredu'r newidiadau i gyfradd y comisiwn ar gartrefi mewn parciau, rwyf heddiw wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

https://beta.llyw.cymru/rhoir-newid-i-gyfradd-y-comisiwn-ar-gartrefi-mewn-parciau-ar-waith?_ga=2.213655316.1813196530.1550832968-930476655.1547726241 .

Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar amseru’r newid cyntaf ynghyd â barn ar beth ddylai fod mewn unrhyw ganllawiau sy’n cyd-fynd â’r newidiadau a sut orau i gyfathrebu am y newidiadau. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb am roi o’u hamser i ymateb i’r ymgynghoriad.

Bydd preswylwyr a pherchnogion safleoedd yn awyddus i gael gwybod y dyddiad gweithredu ar gyfer y newidiadau. Fodd bynnag, gan fod y penderfyniad gwreiddiol i ostwng cyfradd y comisiwn yn destun adolygiad barnwrol, nid yw’n bosibl dod i safbwynt pendant ar hyn o bryd. Fe roddaf ddiweddariad arall ichi ar y mater hwn pan gallaf wneud hynny.