Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn datganiad ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd fy rhagflaenydd yr Ymgynghoriad ar 'Reoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Cymru)'. Heddiw, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, ac ar y camau nesaf arfaethedig. 

Mae gan bob plentyn hawl sylfaenol i addysg, ni waeth ble neu sut y caiff hynny ei ddarparu. Nid yw plant nad ydynt yn cael addysg yn gallu cyrraedd eu potensial, ac maent yn wynebu risg uwch o ystod o ganlyniadau negyddol a allai arwain at effeithiau niweidiol hirdymor o ran eu cyfleoedd bywyd. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i wneud trefniadau i adnabod plant sy'n byw yn eu hardaloedd nad ydynt yn ddisgyblion mewn ysgol ac nad ydynt yn cael addysg addas, yn ogystal â dyletswyddau ychwanegol i ddiogelu a hyrwyddo llesiant pob plentyn. Fodd bynnag, gan nad yw'n ofynnol i rieni roi gwybod i'w hawdurdod lleol os nad yw eu plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol yn yr ardal, efallai na fydd modd i awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â'r holl blant y maent yn gyfrifol amdanynt. 

Rhoddodd yr ymgynghoriad gyfle i randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd fynegi eu barn ar 'Reoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Cymru)'. Mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol greu cronfeydd data o blant a allai fod yn colli addysg. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol rannu gwybodaeth sylfaenol, nad yw at ddefnydd clinigol, ag awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i adnabod plant. Bydd y pwerau newydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i greu cronfa ddata rhesymol cyflawn o blant sydd naill ai ddim ar unrhyw gofrestr addysgol, neu nad yw'n hysbys eu bod yn cael addysg addas, er mwyn eu helpu i adnabod plant a allai fod yn colli addysg. Dim ond gwybodaeth yn ymwneud â phlant sydd wedi'u hadnabod gan yr awdurdod lleol fel rhai a allai fod yn colli addysg fydd yn cael ei chadw ar y gronfa ddata.

Rwy'n ymwybodol bod trafodaethau am y cynigion polisi hyn wedi bod yn mynd rhagddynt ers peth amser ac wedi bod yn destun ymgynghori a datblygu helaeth. Dyma'r ail ymgynghoriad mewn perthynas â chronfeydd data addysg awdurdodau lleol. Arweiniodd y cyntaf, a gynhaliwyd yn 2020, at ddiwygiadau sylweddol i'r cynigion cychwynnol er mwyn ymdrin â phryderon ynghylch cymesuredd a chwmpas a godwyd gan rai rhanddeiliaid, a rhieni a gofalwyr sy'n addysgu yn y cartref. 

Hoffwn ei gwneud yn glir nad yw'r cynigion hyn yn ymwneud ag addysg ddewisol yn y cartref. Mae'r rheoliadau yn cyd-fynd â'r canllawiau statudol 'plant sy'n colli addysg' ac yn ceisio sicrhau gweithdrefn i awdurdodau lleol adnabod plant sy'n colli addysg. Rwy'n llwyr dderbyn penderfyniad rhai rhieni i addysgu yn y cartref os yw hynny er budd gorau'r plentyn, ond ar y llaw arall, mae angen sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr wybodaeth angenrheidiol i gyflawni eu dyletswyddau. Mae'r dyletswyddau hyn yn gymwys i bob plentyn, ni waeth ble neu sut y cânt eu haddysgu. Fel y nodir yn y canllawiau statudol, plant sy'n colli addysg yw plant nad ydynt yn cael addysg addas mewn ysgol neu fel arall. Gall hyn gynnwys plant nad ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol. 

Mae wedi cymryd amser i ystyried yn llawn yr holl ymatebion a gafwyd o'r ymgynghoriad hwn, a phenderfynu ar ba ddiwygiadau, os o gwbl, y dylid eu gwneud i'r cynigion polisi ynghylch plant sy'n colli addysg. Cafwyd cyfanswm o 359 o ymatebion drwy'r ymgynghoriad ar-lein a'r ymarferion ymgysylltu eraill yn ymwneud â'r ymgynghoriad. Roeddwn yn falch o weld bod ymatebion wedi dod i law gan ystod eang o sefydliadau, sectorau ac unigolion, gan gynnwys plant a phobl ifanc. Sicrhaodd hyn bod safbwyntiau gwahanol yn cael eu hystyried, a hynny ar draws ystod o wahanol agweddau. 

Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad fod barn ar y cynigion hyn yn rhanedig o hyd, gyda'r mwyafrif o unigolion ac addysgwyr yn y cartref a ymatebodd yn gwrthwynebu'n gryf cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, roedd mwyafrif yr awdurdodau lleol a'r sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldeb dros blant a hawliau plant o'r farn bod angen rheoliadau i adnabod plant a allai fod yn colli addysg. Cynhaliwyd dadansoddiad annibynnol gan gwmni OB3 ac mae'n amlygu rhai o'r negeseuon allweddol gan randdeiliaid gwahanol. 

Ar ôl ystyried yr holl ymatebion yn ofalus, rwyf wedi cytuno i symud ymlaen â chynlluniau i weithredu Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Cymru) a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Cymru). 

Er mwyn sefydlu effeithiolrwydd y rheoliadau ar gyfer adnabod plant a allai fod yn colli addysg, a nodi unrhyw anawsterau ymarferol y gallai fod angen mynd i'r afael â hwy, rwyf wedi cytuno y bydd trefniadau o ran y cronfeydd data yn cael eu treialu ar draws nifer bach o awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd y cynllun peilot yn cael ei werthuso'n llawn, a bydd unrhyw newidiadau gofynnol yn cael eu gwneud cyn cyflwyno'r cynllun yn ehangach ledled Cymru.

Mae dadansoddiad lefel uchel o'r ymatebion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Cronfa ddata plant sy'n colli addysg | LLYW.CYMRU

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.