Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar newidiadau technegol posibl i Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Mawrth a 6 Mehefin 2024 ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymatebion a gafwyd gan amrywiaeth o randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd.
Mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn system sy'n rhoi cymorth sylweddol ac yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â thlodi ledled Cymru. Caiff y Cynllun ei weinyddu'n lleol gan gynghorau, ond yn hanesyddol, niferoedd bach o breswylwyr a allai fod yn gymwys sydd wedi manteisio arno, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn parhau i ostwng. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig gwneud nifer o newidiadau i'r Cynllun er mwyn ei gwneud yn haws i fanteisio arno ac yn symlach i'w weinyddu.
Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn cytuno â'r cynnig y gallai cyngor gydnabod person sy'n cael Credyd Cynhwysol fel un sydd wedi gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor. O ganlyniad, bydd y newid hwn yn cael ei wneud yn yr iteriad nesaf o'r rheoliadau, "Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025", a bydd y newid yn dod i rym ar 1 Ebrill 2025. Rwy'n gobeithio y bydd y newid hwn yn rhoi mwy o adnoddau ac eglurder deddfwriaethol i gynghorau ddyfarnu gostyngiadau yn y dreth gyngor o dan amgylchiadau penodol.
Roedd y safbwyntiau a gafwyd ar y cynigion yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â didyniadau annibynyddion o blaid symleiddio'r cyfrifiadau cymhleth i ddau fand incwm. Fel y nodir yn yr ymgynghoriad, bydd newidiadau i ddidyniadau annibynyddion yn cael eu cadarnhau yn 2026 pan fydd fforddiadwyedd unrhyw newidiadau yn dod yn gliriach.
Mae canlyniad yr ymgynghoriad yn cyfrannu at gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i wneud y dreth gyngor yn decach, wrth inni barhau i adolygu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i sicrhau bod aelwydydd incwm isel yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd yn yr hydref, byddwn yn falch o wneud hynny.