Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi gwybod i'r Aelodau fod y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch cynigion i ddiwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 wedi'i gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Penderfynais yn gynharach na fyddai tabl prisio yn cael ei gyflwyno at ddibenion iawndal eithr byddai'r system bresennol o brisiadau unigol ar ffermydd yn parhau, ond gyda thaliadau chwyddo. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn gwnes wahodd sylwadau ynghylch fy nghynlluniau i gynyddu ystod yr amgylchiadau lle y gallwn leihau iawndal os nad yw person wedi cydymffurfio â'r rheolau. Mae'r cynigion hyn yn seiliedig ar adborth gan gynrychiolwyr y diwydiant ffermio a ffermwyr unigol. Eu nod yw sicrhau cydbwysedd rhwng rhoi iawndal teg i ffermwyr am golli eu hanifeiliaid a hefyd gymell ceidwaid gwartheg i gymryd camau a fydd yn lleihau'r perygl y gallai clefydau ledu alleihau’r perygl o gosbi ymddygiad peryglus.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 12 wythnos a derbyniwyd 18 o ymatebion oddi wrth ystod o sefydliadau, busnesau ac unigolion a fynegodd eu barn ar y cynigion. Ar ôl pwyso a mesur yn ofalus y sylwadau a gyflwynwyd rwyf wedi penderfynu newid ein deddfwriaeth er mwyn cyflwyno mesurau a fydd yn golygu bod pobl sy'n dilyn arferion uchel eu risg a all gyfrannu at ledu TB, ac felly beryglu llwyddiant y Rhaglen i Ddileu TB, yn cael eu cosbi

Credaf fod y mwyafrif helaeth o ffermwyr yn cydymffurfio â'r rheolau ac maent yn awyddus i gydweithio â ni er mwyn dileu'r clefyd hwn. Ni fydd y modd y caiff anifeiliaid y ffermwyr hyn eu prisio nac ychwaith eu hiawndal yn newid ac rwy'n disgwyl y bydd iawndal llawn sy'n seiliedig ar werth y farchnad yn cael ei dalu yn y rhan fwyaf o achosion. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi'r pwerau i ni leihau'r iawndal a gaiff ei dalu i'r bobl hynny sydd wedi torri'r rheolau. Wrth i'r ddeddfwriaeth newydd gael ei drafftio yn ystod y misoedd nesaf bydd fy swyddogion yn cydweithio â'r diwydiant ffermio er mwyn trafod unrhyw faterion ymarferol a chyflwyno'r newidiadau hyn cyn iddynt ddod i rym.