Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, ymgynghorais ar gynnig i newid y ddeddfwriaeth er mwyn inni allu cyhoeddi gwybodaeth am fuchesi sydd wedi’u heintio â TB.  Ar ôl ystyried yr ymateb, rwyf wedi penderfynu newid y ddeddfwriaeth a chyflwyno pwerau newydd. 

Rwyf am ddefnyddio’r pŵer hwn i roi gwybodaeth i unigolion am ffermydd gwartheg sydd â TB.  Bydd yr wybodaeth yn helpu’r unigolion hynny i benderfynu ar y camau priodol i ddiogelu’u buchesi rhag y clefyd.  Bydd yn codi ymwybyddiaeth hefyd am beryglon prynu anifeiliaid â’r haint yng nghudd ynddynt. 

Mae’n bwysig bod Cymru’n sicrhau ac yn cynnal y safonau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid er mwyn medru gwella incwm ffermydd a gwireddu eu potensial yn y farchnad. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gefnogi busnesau fferm unigolion a’u helpu i ddiogelu’u busnesau rhag TB. 

Mae codi safonau iechyd a lles anifeiliaid yn allweddol i greu busnesau fferm proffidiol ac un o brif amcanion y Rhaglen Dileu TB yw rhwystro clefydau rhag lledaenu i ffermydd sydd heb TB.  Er bod y sefyllfa o ran y clefyd wedi gwella dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae TB yn dal i fod yn dreth gymdeithasol ac economaidd ar ffermwyr, y diwydiant ffermio ehangach ac ar geidwaid anifeiliaid eraill fel teulu’r camel.  Roedd mwyafrif yr ymatebion o blaid y cynnig i newid y ddeddfwriaeth.
Nid yw’r pŵer yn mynd yn groes i ofynion Deddf Diogelu Data 1998 a Chonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol.  Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, rwyf wedi penderfynu mai’r ffordd orau i gyhoeddi gwybodaeth am TB yw ar y wefan.  Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ymchwilio i’r opsiwn a byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar y mater ym mis Tachwedd.  

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar rannu lleoliad ffermydd sydd â TB wedi’i gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.