Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ôl i Estyn arolygu gwasanaethau addysg awdurdod lleol Blaenau Gwent ar gyfer plant a phobl ifanc ym Mai 2011, bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y tîm arolygu wedi dyfarnu bod gwasanaethau addysg yr awdurdod a’u capasiti i wella yn anfoddhaol. Rhoddwyd yr awdurdod, felly, o dan fesurau arbennig.

Yn anffodus, pan aeth Estyn ati i arolygu gwasanaeth addysg yr awdurdod unwaith eto ym mis Ionawr 2013, yr un oedd y casgliadau a pharhaodd yr awdurdod o dan fesurau arbennig. Rhoddodd Estyn 7 argymhelliad i’r awdurdod.

Rwyf wedi sefydlu ymyriadau amrywiol dros amser, megis Comisiynwyr ac, yn fwyaf diweddar, bwrdd adfer Gweinidogol, ac rwyf wedi rhoi swyddogaethau addysg yr awdurdod i’r bwrdd er mwyn cynnig cymorth a her i’r awdurdod a’i helpu i ddelio â’i ddiffygion.

Mae Estyn wedi bod yn monitro cynnydd yr awdurdod ac ymwelodd â’r awdurdod ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2014. Fis diwethaf cynhaliodd Estyn ei ymweliad monitro diweddaraf â gwasanaethau addysg yr awdurdod, ac rwyf am roi gwybod ichi beth oedd canlyniad yr ymweliad hwnnw.

Rwy’n falch o gael cyhoeddi, yn dilyn yr ymweliad hwnnw, fod Estyn wedi dyfarnu bod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd digonol o ran yr argymhellion a wnaed yn sgil arolygiad Ionawr 2013. O ganlyniad, mae’r Arolygiaeth o’r farn nad oes angen i’r awdurdod fod o dan fesurau arbennig bellach, ac ni fydd angen mwy o wiriadau.

Caiff adroddiad Estyn ar ganlyniad yr ymweliad monitro ei gyhoeddi ar ei wefan heddiw.

Rwyf wedi cwrdd ag arweinydd a phrif weithredwr Blaenau Gwent i’w longyfarch ar y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion Estyn a dyfarniad yr arolygwyr.

Er bod y dyfarniad hwn yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod o ran argymhellion Estyn, sy’n bwysig ynddo’i hun, mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith bod yr argoelion ar gyfer pobl ifanc Blaenau Gwent yn gwella. Mae’n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar y canlyniadau hyn a sicrhau bod safonau addysg yr awdurdod yn parhau i wella.

Er ein bod wrth ein bodd â chyhoeddiad Estyn heddiw, rwyf wedi pwyso ar dîm arweinwyr yr awdurdod i beidio â llaesu dwylo, a sicrhau bod y gwelliant yn parhau ac yn gynaliadwy. Rwyf wedi pwyso arnynt i ystyried beth yw’r ffordd orau o sicrhau bod hyn yn digwydd.

Yn sgil fy nhrafodaethau gyda’r awdurdod, dwi’n falch o allu nodi bod y mater hwn yn glir ym meddyliau’r tîm arweinwyr a’u bod wrthi’n ystyried sut y gellir parhau â’r cynnydd a wnaed. Mae fy swyddogion, mewn cydweithrediad â’r awdurdod, yn rhoi ystyriaeth i’r strwythurau cymorth mwyaf priodol a fyddai’n caniatáu i’r awdurdod gyflawni hyn.  

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.