Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Yr hydref hwn, lansiais ymgynghoriad cyhoeddus i lywio ymhellach y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth ddigartrefedd newydd yr wyf yn ei chyflwyno yn fy Mil Tai. Mae’n nodi fy nghynnig i newid statws angen blaenoriaethol cyn-garcharorion mewn perthynas â dyletswyddau digartrefedd awdurdodau lleol. Heddiw, rwy’n cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad.
Rwy’n ymwybodol bod y pwnc o gyn-garcharorion yn cael statws angen blaenoriaethol ar gyfer tai yn un dadleuol. Cydnabyddir anghenion cyn-garcharorion ond ystyrir bod y trefniadau presennol yn annheg o ran eu bod yn cael blaenoriaeth dros nifer o bobl eraill sy’n agored i niwed waeth beth fo’u hamgylchiadau personol.
Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Daeth 55 ymateb i law gan sefydliadau ac unigolion ym maes tai a thu hwnt.
Gwnaed amrywiaeth eang o sylwadau, ac roedd y mwyafrif llethol o blaid y cynnig. Roedd yr ymatebwyr yn cefnogi bod dyletswyddau a blaenoriaeth yn canolbwyntio ar weithio gyda phob carcharor mewn perygl i’w helpu i’w hatal rhag dod yn ddigartref, tra’n cynnal dyletswydd i’w hailgartrefu lle maent yn amlwg yn agored i niwed oherwydd eu carchariad. Bydd y ddeddfwriaeth yn parhau i ddarparu statws angen blaenoriaethol i unrhyw un, gan gynnwys carcharor, sy’n agored i niwed oherwydd amgylchiadau arbennig, fel salwch meddwl.
Mynegodd sawl ymatebydd bryderon am rai agweddau ar y cynigion, yn enwedig yr effaith bosibl ar adsefydlu carcharorion sy’n agored i niwed yn llwyddiannus a’r effaith ar aildroseddu. Bydd darpariaethau ehangach digartrefedd yn rhoi gwell cymorth i garcharorion cyn eu rhyddhau i ganfod llety addas iddynt.
Rwyf wedi penderfynu cynnwys y cynnig ar wyneb y Bil. Byddwn yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r newid hwn yn llwyddiannus drwy gydweithio ag asiantaethau cyfiawnder troseddol, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.
Hoffwn bwysleisio y byddwn yn parhau i ddiwallu anghenion cyn-garcharorion sy’n agored i niwed drwy’r ddeddfwriaeth, o fewn cyd-destun mwy rhagweithiol i atal.
Ymgynghori ar y cynnig i newid y ddyletswydd i awdurdod lleol i ddarparu ar gyfer cyn- garcharor o ganlyniad i'w statws angen blaenoriaeth, ar gael ar-lein.