Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Ym mis Mehefin 2012, llwyddais, ar y cyd â Gweinidogion Pysgodfeydd eraill y DU, i negodi cytundeb cyffredinol i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
Bwriad y Gweinidogion Pysgodfeydd wrth lofnodi’r cytundeb hwn oedd rhoi diwedd ar yr arferion gwastraffus o daflu pysgod yn ôl i’r môr; pennu lefelau cynaliadwy o bysgod i’w dal; cynllunio mewn ffordd fwy hirdymor a symud tuag at ddull mwy rhanbarthol o reoli pysgodfeydd.
Roedd y Cyngor Pysgodfeydd hwn yn trafod mecanweithiau ar gyfer gwahardd yr arfer o daflu pysgod yn ôl i’r môr, gan ganolbwyntio’n benodol ar fanylion gweithredu gwaharddiad o’r fath. Er bod Gweinidogion y DU yn llwyr gefnogi’r gwaharddiad, mae heriau sylweddol i’w goresgyn wrth ei weithredu. Bydd hyn yn effeithio ar yr holl arferion pysgota gan gynnwys y fflyd o gychod pysgota bach arfordirol sydd gennym yng Nghymru.
Daeth Gweinidogion pysgodfeydd yr UE i gytundeb ar y prif gamau i’w cymryd er mwyn sicrhau gwaharddiad gwirioneddol ar daflu pysgod fel rhan o Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin diwygiedig.
Roedd trafodaethau’r Cyngor yn gyfle i amlygu safbwyntiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch y mater hwn; a manteisiodd Gweinidogion y DU ar hynny i adeiladu consensws o blaid y Pecyn o Newidiadau i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a ffefrir gan y DU.
Mae’r cytundeb diweddaraf hwn yn rhoi sylfaen cadarn ar gyfer y trafodaethau tair-ochrog rhwng y Cyngor, y Comisiwn a Senedd Ewrop. Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer y polisi diwygiedig a ddaw i rym o fis Ionawr 2014 ymlaen.