Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae canlyniad y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban wedi’i gadarnhau yn ffurfiol a bydd pobl yr Alban yn aros o fewn y Deyrnas Unedig. Rwy’n croesawu eu penderfyniad. Rwy’n falch bod yr Alban am aros yn rhan o’r Undeb, oherwydd rwy’n credu mai dyna yw’r canlyniad gorau ar gyfer gwarchod buddiannau Gymru a rhannau eraill y Deyrnas Unedig.

Rydym yn dechrau yn awr ar gyfnod newydd yn nhrefniadau llywodraethu’r Deyrnas Unedig; cyfnod o heriau, yn ogystal â chyfleoedd. Mae’r ffaith bod yr Alban wedi cadarnhau ei hymrwymiad i aros yn y Deyrnas Unedig yn gosod sylfaen positif ar gyfer sefydlu egwyddorion cyfansoddiadol y DU gyfan am yr hirdymor. Rwy’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i achub ar y cyfle hwn mewn ffordd drylwyr a hollgynhwysol.  Y man cychwyn, o reidrwydd, fydd sefydlu perthynas o barch rhwng bob un o’r pedwar corff deddfu, y pedair llywodraeth, sydd yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bryd inni gydnabod bod datganoli yn un o hanfodion ein cyfansoddiad ni ac mae angen i hyn gael ei warantu, fel dywedodd Gordon Brown.

Mae canlyniad heddiw yn gyfle i ganolbwyntio ar y cyd-destun ehangach hwn ac i sefydlu egwyddorion sylfaenol cyfansoddiad newydd y Deyrnas Unedig a fydd yn deillio o benderfyniad yr Alban. Dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf byddaf yn pwyso am i Gymru gael chwarae rhan lawn yn y broses hon.
Fe wnaf i ddatganiad pellach gerbron y Cynulliad ddydd Mawrth nesaf.